Miriam Elin Jones
Miriam Elin Jones oedd un o’r cannoedd fu yn Noson Wobrau’r Selar yn Aberystwyth dros y penwythnos …
Rwyf yn wir obeithio mai Noson Wobrau’r Selar 2013 fydd yn ennill gwobr ‘Digwyddiad Byw Gorau’ yn seremoni 2014 – heb os, bu’n noson sy’n llwyr haeddu gwobr ei hun!
Os nad ydy criw’r Selar yn rhy awyddus i frolio’u camp aruthrol a gosod eu hunain ar y rhestr fer, gobeithiaf eu bod yn derbyn ymateb cynulleidfa’r noson honno fel gwerthfawrogiad addas o’u gwaith caled. (Mae’r criw yn haeddu wythnos gyfan o gwsg wedi mynd ati mor ddiwyd i drefnu clamp o noson dda!)
Tu hwnt i wythnos yr Eisteddfod a thymor y gwyliau cerddorol yn ystod yr haf mae digwyddiadau mawrion fel hyn yn bethau prin, ac roedd hi’n galonogol gweld cynifer yno’n barod i gefnogi.
Daeth bysus o Fangor, o’r Bala ac o Gaerdydd i ymuno â’r miri yn Aberystwyth nos Sadwrn diwethaf, ac roedd Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau yn orlawn.
Mae’n flin gennyf os na lwyddoch i gael tocyn, gan fy mod ar fin eich gwneud yn genfigennus iawn nad oeddech yno. Roedd Noson Wobrwyo flynyddol cylchgrawn Y Selar wedi llwyddo i werthu bob un tocyn (dros 500 os yw fy ffigyrau innau’n gywir), ac mi wnaeth wyth act wirioneddol wych ein helpu i ddathlu’r gorau o gerddoriaeth Gymraeg.
Pwy bynnag sydd wedi bod yn traethu bod y sin gerddoriaeth Gymraeg ar fin trengi – mae’n bryd iddynt lyncu’u geiriau.
Rhai o’r enillwyr
Afraid dweud, Gig Edward H gipiodd gwobr y Digwyddiad Byw Gorau – yr unig Gig Anferthol o Fawr y llynedd. Gobeithiaf y caiff teithiau bandiau megis Candelas, Hud a Sŵnami (a enwebwyd eleni) a thaith haf blynyddol Y Bandana sylw haeddiannol flwyddyn nesaf, gan eu bod yn ymdrechu’n galed (yn aml ar golled ariannol) i gynnal teithiau o’r fath.
Ynghyd â hynny, criw’r Nyth dderbyniodd gwobr yr Hyrwyddwyr Gorau, a hwythau wedi cael blwyddyn eithriadol o brysur, gan ryddhau eu casgliad aml-gyfrannog cyntaf.
Y merched feddiannodd gategori’r Artist Unigol Gorau, gyda Georgia Ruth yn ychwanegu’r tlws i’w chasgliad (ei halbwm Week of Pines enillodd Wobr Gerddoriaeth Gymreig Gwyl Sŵn 2013) ar ôl cystadleuaeth agos rhyngddi hi, Kizzy Crawford a Casi Wyn.
Ac oes angen i mi ddweud mai Lisa Gwilym enillodd Gwobr y Cyflwynydd Gorau? (Nac oes. Hynny’n amlwg!)
Ennillwyr categori’r Fideo Orau – Sŵnami gyda ‘Gwreiddiau’:
Uchafbwyntiau
O ran y gig ei hun, roedd set Candelas yn uchafbwynt personol, gan ddangos yn ddigon clir pam mai nhw oedd yn deilwng o ennill gwobr bwysicaf y noson, gwobr y Band Gorau, yn ogystal â gwobrau’r Record Hir Orau a Chân Orau 2013.
Yn ogystal â hynny cawsom glywed dwy gân newydd sbon, a gweld nad ydynt yn bwriadu rhoi’r gorau iddi yn 2014 chwaith.
Nos Sadwrn oedd y tro cyntaf i mi weld Yr Eira yn fyw, a synnais pa mor hyderus oeddent ar lwyfan mor eang, er eu bod yn fand cymharol ifanc.
Clywsom eu sengl newydd ‘Ymollwng’ ac mae modd gweld yn barod bod Yr Eira yn mynd i fod yn hot contender ar gyfer y flwyddyn nesaf.
‘Ymollwng’ gan Yr Eira:
Trueni nad oedd modd iddynt hwy a Kizzy rhannu gwobr yr Artist/Band Newydd Orau rhyngddynt, gan eu bod yn ddwy act newydd sydd wedi gwneud cymaint o argraff yn fuan iawn yn eu gyrfaoedd cerddorol.
Mae’n anodd darogan beth fydd y ddwy act newydd hyn yn cynnig i ni nesaf a hwythau eisoes mor broffesiynol.
Ond …
Yr unig gŵyn sydd gennyf yw diffyg cynrychiolaeth artistiaid amgen – i mi, R.Seiliog yw un o’r artistiaid mwyaf gwefreiddiol i mi weld yn fyw, ac mae’n siom na dderbyniodd menter Gwenno Saunders a Peski, Cam o’r Tywyllwch, unrhyw glod.
Efallai bod ychwanegu categori ar gyfer Band/Artist Amgen yn rhywbeth i’w ystyried yn y dyfodol. (Mae diffinio “amgen”, wrth gwrs, yn ddadl arall …)
Rhaid i mi hefyd ddweud fy mod i’n digalonni bod Crash.Disco! yn ymddeol o’r sin, a bydd hi’n anodd dod i arfer a’i alw’n Gruff o Sŵnami o nawr ymlaen. A gwylltiais yn gacwn pan adawais nos Sadwrn a sylweddoli nad oeddwn yn gwybod pwy oedd Gramcon (yn ôl y sôn, mae’r ffugenw yn anagram o’i enw go iawn, ond dydw i’n dda i ddim am ddatrys posau!)
Ar y cyfan, clywsom berfformiadau arbennig gan Gildas, Kizzy, Casi Wyn, Sŵnami, Bromas, Yr Ods, Yr Eira a Candelas a manteisio ar y cyfle i ymfalchio yn llwyddiant ein cerddorion talentog.
Os na lwyddoch i fachu tocyn eleni, byddwch yn fwy trefnus flwyddyn nesaf – mi golloch noson anhygoel! Rhaid dweud, byddwn wrth fy modd petai hyn yn digwydd POB penwythnos.
Gallwch ddarllen mwy gan Miriam ar ei blog, neu ei dilyn ar Twitter ar @miriamelin23.