Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal heno i drefnu ymgyrch i roi pwysau ar S4C i sefydlu pencadlys yng Nghaerfyrddin.

Bydd y cyfarfod sydd wedi cael ei drefnu gan ymgyrchwyr ‘Yr Egin’ yn cael ei gynnal ar gampws Prifysgol y Drindod Dewi Sant.

Dywed trefnwyr yr ymgyrch eu bod nhw’n grŵp a chanddyn nhw “weledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol i greu ffordd newydd o fyw yn y gorllewin”.

Ar eu tudalen Facebook, maen nhw’n dweud mai eu “bwriad yw creu canolfan i’r diwydiannau creadigol a diwylliannol gydag S4C yn ganolbwynt i’r cyfan”.

Ym mis Tachwedd, roedd adroddiadau y gallai S4C benderfynu rhannu cyfleusterau gyda BBC Cymru pe bai S4C yn symud i Wynedd, ac y byddai’r ganolfan newydd yn Noc Fictoria yng Nghaernarfon.

Mae les y BBC ym Mryn Meirion yn dod i ben yn 2021.

Mae gan gwmnïau Rondo, Antena, Cwmni Da, ITV, Tinopolis a Griffilms swyddfeydd yn nhref Caernarfon eisoes.

Ond, mae’n opsiwn o hyd y gallai S4C aros ar eu safle presennol yng Nghaerdydd.

Hyd yn oed pe bai’r pencadlys ac oddeutu 50 o staff yn symud, fe fyddai’r ganolfan dechnegol yn parhau ar y safle presennol yng Nghaerdydd.

‘Manteision economaidd, ieithyddol a diwylliannol’

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis wrth Golwg360: “Ar hyn o bryd mae S4C yn cynnal astudiaeth dichonoldeb i’r posibilrwydd o symud pencadlys y sianel i ran arall o Gymru.

“Rydym yn edrych yn benodol ar ddau gais – sef cais sy’n cael ei arwain gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant i symud i Gaerfyrddin a chais arall sy’n cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd i symud i Gaernarfon.

“Rydym yn bwriadu cwblhau’r astudiaeth o fewn y misoedd nesaf.

“Bwriad S4C yw gweld a fyddai cymryd y cam yma’n gallu cynnig manteision economaidd, ieithyddol a diwylliannol i un o’r ardaloedd hynny mewn ffordd sy’n ddichonol i’r sianel ac yn gost-niwtral dros gyfnod.”

Yr unig benderfyniad hyd yma yw na fydd S4C yn symud i Borthmadog.

Yn ôl y Daily Post, cafodd y dref wybod eu bod nhw wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb.

‘Gweledigaeth’

Dywedodd Eleri Beynon o Brifysgol y Drindod Dewi Sant mai “tynnu pobol y sir at ei gilydd” yw’r nod.

Ychwanegodd: “Mae pobol y sir yn teimlo’n gryf am ein gweledigaeth ni i greu rhywbeth i’r sir gyfan a’r gorllewin.”

‘Angen presenoldeb yn y gogledd’

Ond mae cynghorydd tref Caernarfon, Hywel Wyn Roberts wedi dweud wrth Golwg360 y byddai symud pencadlys S4C i Gaerfyrddin yn golygu diffyg presenoldeb yn y gogledd.

Dywedodd: “Mae angen presenoldeb yn y gogledd.

“Bysa symud i Gaerfyrddin yn golygu symud popeth i’r de.

“Mae gynnon ni brofiad helaeth ym maes darlledu yma, wrth gwrs. Mi fedren ni ddefnyddio Prifysgol Bangor a’r Galeri yng Nghaernarfon, ac mae llu o gwmnïau cyfryngau eraill yma hefyd.”

Ychwanegodd: “Rydym yn ffyddiog y bydd S4C yn dadansoddi’r ceisiadau yn ofalus ac yn ddiffuant ac nid yn gwrando ar ddadleuon camarweiniol gan lefarwyr Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant fel a gafwyd ar Radio Cymru y bore yma.”

Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Brifysgol Y Drindod Dewi Sant.