Richard Harrington yn Y Gwyll
Mae Y Gwyll, Rownd a Rownd ac Alys ymysg rhaglenni teledu o Gymru a fydd yn cystadlu am wobrau yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd sy’n cael ei gynnal yng Nghernyw eleni.

Ar y cyfan, bydd 23 o enwebiadau o Gymru yn yr ŵyl – gyda S4C yn derbyn dwsin ohonyn nhw dros naw categori gwahanol.

Mae’r ŵyl, sy’n dathlu ieithoedd a diwylliant y gwledydd Celtaidd ar y sgrin, yn cael ei chynnal yn St Ives yng Nghernyw rhwng 2 a 4 Ebrill, yn dilyn yr ŵyl lwyddiannus yn Abertawe’r llynedd.

Enwebiadau

Yn y categori Cyfres Ddrama, fe fydd y gyfres dditectif poblogaidd Y Gwyll/Hinterland, yn mynd benben hefo cyfres Alys i gystadlu am wobr.

Mae Rownd a Rownd, sydd newydd ddathlu ei milfed bennod, yn y categori Pobl Ifanc a’r ddrama Tir yn y categori Drama Nodwedd.

Mae dau gynhyrchiad gan Cwmni Da yn cystadlu yn y categori Celfyddydau – portread o’r bardd Gerallt Lloyd Owen, Gerallt, yw’r naill a rhifyn arbennig o’r sioe gelfyddydol, Pethe, Pethe: Lleisiau Ysbyty Dimbach yw’r llall.

Cyfres arall o stabl Cwmni Da, taith y cyflwynydd a’r bardd Ifor ap Glyn i’r Llefydd Sanctaidd sy’n cael ei lle yn y categori Cyfres Ffeithiol.

Ac fe fydd rhaglenni plant Cyw a Stwnsh yn y categori Plant.

‘Creu argraff ar lwyfan ryngwladol’

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, fod y sianel yn edrych ymlaen at greu argraff ar lwyfan ryngwladol yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yng Nghernyw.

“Roedd amserlen y llynedd yn llawn cerrig milltir mewn gwahanol genre ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn yr amrywiaeth eang o enwebiadau mae S4C wedi ei derbyn ar gyfer y gwobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd.

“Hoffwn longyfarch pob un o’r cynhyrchwyr a dderbyniodd enwebiadau – mae’n adlewyrchiad o’u creadigrwydd a’u hymdoddiad i greu gwaith o’r safon uchaf.