Yn dilyn blwyddyn ddisglair arall i Casi Wyn y llynedd, mae’r gantores ifanc o Fangor wedi rhyddhau’i sengl gyntaf o 2014, ‘Grace’, sydd ar gael i’w lawrlwytho o heddiw ymlaen.

Cyrhaeddodd Casi Wyn restr fer Gwobrau’r Selar 2013 yn ddiweddar yng nghategori Artist Unigol Gorau, ar ôl rhyddhau’i EP cyntaf, ‘1’, yn 2013.

Yn ogystal â hynny fe chwaraeodd mewn nifer o wyliau ledled Cymru’r llynedd, gan gynnwys Green Man a Gŵyl Sŵn.

Mae’r gân ‘Grace’ eisoes wedi cael ei chwarae dros 1,300 o weithiau ar Soundcloud mewn llai nag wythnos, ac ar gael i’w phrynu ar iTunes am 79c.

Gallwch wrando arni yma: