Kizzy Crawford enillodd y wobr am 'Band neu Artist newydd gorau' (Llun: Betsan Haf Evans)
Y grŵp roc o Lanuwchllyn, Candelas, oedd prif enillwyr Gwobrau’r Selar  yn Aberystwyth nos Sadwrn.

Cipiodd y Candelas dair o wobrau’r cylchgrawn cerddoriaeth mewn gig llawn dop yng Nghanolfan y Celfyddydau. Fe ddaethon nhw ar frig y bleidlais gyhoeddus yng nghategorïau ‘Cân Orau’, ‘Record Hir Orau’ a ‘Band Gorau’.

Roedd hi’n noson dda i ferched y sin hefyd, gyda Georgia Ruth Williams yn cipio teitl ‘Artist Unigol Gorau’ o restr fer o dair merch.

Y gantores o Ferthyr Tudful, Kizzy Crawford, aeth â hi yn un o’r categorïau mwyaf cystadleuol y gwobrau eleni sef ‘Band neu Artist Unigol Gorau’.

Ac fe gafodd Sŵnami noson dda yn ennill gwobr y ‘Record Fer Orau’, a’u fideo i’r gân Gwreiddiau, a gyfarwyddwyd gan Osian Williams gipiodd y wobr yn y categori newydd sbon ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’.

Gwerthu allan

Roedd 500 o bobol yn Neuadd Fawr Aberystwyth i ddathlu llwyddiannau’r flwyddyn gerddorol a fu.

“Roedd yn gadarnhaol iawn fod cymaint o bobol yn awyddus i ymuno â’r dathliad,” meddai Uwch Olygydd y cylchgrawn, Owain Schiavone.

“Ro’n i wrth fy modd i weld bysus yn cael eu trefnu o Fangor, Caerdydd, Y Bala a Chaerfyrddin a phobol ifanc yn gwneud ymdrech gwirioneddol i ddod i ddigwyddiad fel hwn.”

Dyma restr lawn o enillwyr Gwobrau’r Selar 2013:

Record Hir Orau: Candelas

Record Fer Orau: Du a Gwyn – Sŵnami

Cân Orau: Anifail – Candelas

Artist Unigol Gorau: Georgia Ruth Williams

Band neu Artist Newydd Gorau: Kizzy Crawford

Hyrwyddwr Gorau: Nyth

Gwaith Celf Gorau: Llithro – Yr Ods

Cyflwynydd Gorau: Lisa Gwilym

Digwyddiad Byw Gorau: Gig Olaf Edward H Dafis, Steddfod Dinbych

Band Gorau: Candelas

Fideo Cerddoriaeth Gorau: Gwreiddiau – Sŵnami (Cyfarwyddwr: Osian Williams)