Mae cwmni ffilmiau Pinewood wedi cyhoeddi eu bod yn sefydlu stiwdio newydd yng Nghaerdydd.
Roedd Prif Weindiog Cymru Carwyn Jones a phrif weithredwr Pinewood Shepperton, Ivan Dunleavy, wedi cyhoeddi’r newyddion heddiw.
Fe fydd y stiwidios newydd yn cael eu sefydlu yn hen safle’r Ganolfan Ynni yng Ngwynllwg, Caerdydd ac yn ffurfio rhan o rwydwaith fyd eang o stiwidios ffilm Pinewood.
Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd yn cyfrannu oddeutu £90 miliwn i’r economi.
Mae Stiwdios Pinewood a Shepperton wedi cynhyrchu 1,500 o ffilmiau dros gyfnod o 75 mlynedd gan gynnwys y ffilmiau James Bond a’r gyfres Carry On.
Yn ogystal mae mwy na 241 o gwmnïau annibynnol sy’n ymwneud a’r diwydiant ffilmiau wedi’u sefydlu yng nghanolfan Media Hub Pinewood a Shepperton.
Mae’r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu gan aelodau blaenllaw o’r diwydiant ffilmiau yng Nghymru.
Michael Sheen
‘Sylw byd-eang i Gymru’
Dywedodd yr actor Hollywood Michael Sheen, sy’n dod o Bort Talbot, bod y cyhoeddiad yn newyddion gwych i Gymru a’i fod yn tanlinellu’r “hyder, yr arbenigedd a’r ysbryd creadigol sydd gan bobl Cymru ac rwy’n gobeithio y bydd yn helpu’r wlad i ddod yn agosach at wireddu rhai o’r gobeithion hynny yn y dyfodol.”
Ychwanegodd y cynllunydd Ed Thomas, sydd wedi gweithio ar gynyrchiadau fel Da Vinci’s Demons, Doctor Who a Torchwood, ei fod yn croesawu’r cyhoeddiad ac y bydd “Pinewood yn dod a sylw byd eang i Gymru.”
‘Lleoliad delfrydol’
Dywedodd Suzy Davies AC, llefarydd treftradaeth y Ceidwadwyr yng Nghymru bod y newydd i’w groesawu ac ychwanegodd bod lle i Gymru gyfan elwa.
“Mae nifer cynyddol o ffilmiau yn cael eu ffilmio mewn lleoliadau ledled Cymru a bydd canolfan newydd Pinewood yn cynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i weld Cymru ar ffilm.
“Mae’r cyhoeddiad hwn i’w groesawu ac mae’n dystiolaeth bellach o enw da cynyddol Cymru fel lleoliad delfrydol i wneuthurwyr ffilm.”