12 Years a Slave
Y ddrama am gaethwasiaeth, 12 Years a Slave, gipiodd dwy o’r prif wobrau yn seremoni Gwobrau Ffilmiau Bafta neithiwr.
Aeth y wobr am yr actor gorau i Chiwetel Ejiofor, seren y ffilm 12 Years a Slave, a enillodd y wobr am y ffilm orau hefyd.
Ond y ddrama sydd wedi ei lleoli yn y gofod, Gravity, aeth a chwech o’r gwobrau gan gynnwys un am ffilm Brydeinig ragorol a gwobr y cyfarwyddwr gorau i Alfonso Cuaron.
Mae Gravity, gyda Sandra Bullock a George Clooney yn y prif rannau, wedi achosi rhywfaint o ddadlau trwy gael ei rhestru fel ffilm Brydeinig. Ond cafodd ei ffilmio ym Mhrydain ac mae’r tîm oedd yn gyfrifol am ei effeithiau gweledol wedi’u lleoli yn y DU hefyd.
Daeth y noson i ben gyda gwobr cymrodoriaeth anrhydeddus i’r actores Helen Mirren a gyflwynwyd gan Ddug Caergrawnt.
Cate Blanchett enillodd y wobr am yr actores orau am ei rôl yn ffilm Woody Allen, Blue Jasmine.
Aeth y wobr am sgript ffilm wreiddiol i’r ffilm drosedd American Hustle ac fe wnaeth Steve Coogan a Jeff Pope ennill y wobr am y sgript ffilm orau oedd wedi ei haddasu am Philomena – stori gwraig Wyddelig sy’n chwilio am ei mab a gafodd ei fabwysiadu yn erbyn ei hewyllys.
Cyfarwyddwr o Dyddewi
Cyfarwyddwr o dde Cymru enillodd y wobr am y cynhyrchiad newydd amlwg, gyda’r ffilm Kelly + Victor.
Wrth gamu ar lwyfan y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden, fe wnaeth Kieran Evans o Dyddewi ddiolch i’w deulu a’i ffrindiau yng Nghymru.
Mae’r ffilm Kelly + Victor wedi cael ei haddasu o ddrama’r awdur Niall Griffiths – sydd a’i wreiddiau yn Aberystwyth – ac mae’n trafod perthynas ddinistriol cwpwl ifanc.
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan Stephen Fry a’u darlledu ar BBC1 .