Agorodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart, heddiw sied ysgrifennu sy’n cyfateb yn union i sied ysgrifennu wreiddiol Dylan Thomas.
Bydd y sied yn mynd ar daith o amgylch Cymru a’r Deyrnas Unedig fel rhan o ddathliadau Gŵyl 100 Dylan Thomas.
Bydd modd i ymwelwyr fynd i mewn i’r sied, sydd wedi’i hadeiladu er mwyn dathlu hoffter Dylan Thomas o eiriau, a chyfrannu at eiriadur o eiriau newydd a gwreiddiol sef ‘Geiriadur i Dylan’.
Mae’r sied yn cyfateb yn union i’r sied yr arferai Dylan ei defnyddio ac yr oedd mor hoff ohoni, ac mae ganddi hyd yn oed y lluniau ar y wal â’u hymylon yn troi a’r olygfa dros yr aber.
Bydd y sied yn mynd ar daith o amgylch y wlad fel rhan o ddathliadau Gŵyl 100 Dylan Thomas, ac yn bresennol mewn gwahanol fannau a digwyddiadau gan gynnwys Gŵyl y Gelli, y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Dyma ffordd gwbl wych ac arloesol o gyflwyno Dylan Thomas, ei waith a Sir Gaerfyrddin i weddill Cymru.
“Bydd yr holl ddigwyddiadau amrywiol a fydd yn cael eu cynnal gydol y flwyddyn yn deyrnged wych i Dylan, ac yn helpu i ailennyn diddordeb yn ei waith a’i gyflwyno i gynulleidfa gwbl newydd.”