Dave Lee Travis (Llun PA)
Mae’r DJ Dave Lee Travis wedi ei gael yn ddi-euog o ddeuddeg cyhuddiad o ymyrryd yn rhywiol mewn merched.

Ond fe fethodd rheithgor yn Llys y Goron Southwark â dod i benderfyniad ar ddau gyhuddiad arall – fe fydd gwrandawiad arall ymhen ychydit tros wythnos i benderfynu a fydd achos arall i glywed y rheiny eto.

Roedd y rheithgor, o wyth merch a phedwar dyn, wedi bod yn ystyried eu dyfarniad am tua 20 awr cyn i’r barnwr ofyn iddyn nhw rannu’r cyhuddiadau..

Roedd y DJ, sy’n 68 oed,  yn cael ei gyhuddo o 13  ymosodiad anweddus ac un ymosodiad rhyw mewn digwyddiadau sy’n dyddio’n ôl i 1976 pan oedd yn anterth ei enwogrwydd gyda Radio 1.

‘Dim synnwyr’

Drwy gydol yr achos, mae Dave Lee Travis wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, gan ddweud nad oedden nhw’n “gwneud synnwyr”.

Fe ddywedodd hefyd y byddai’r cyhuddiadau yn niweidiol iawn iddo, beth bynnag oedd dyfarniad y llys.

Roedd merched wedi honni ei fod wedi cydio’n anweddus ynddyn nhw, rhai yn stiwdios y BBC.

Yr wythnos ddiwetha’, fe gafwyd actor Coronation Street, Bill Roach, yn ddieuog o gyhuddiadau hanesyddol o dreisio.