Llys Ynadon Birmingham (o wefan llywodraeth)
Mae pedwar o drigolion stryd sydd mewn cyfres deledu ddadleuol wedi ymddangos o flaen llys ar gyhuddiadau’n ymwneud â chyffuriau.

Mae’r tair gwraig ac un dyn yn byw ar y stryd yn Birmingham sydd wedi cael sylw yn y gyfres Benefits Street ar Channel 4.

Mae dau o gyn drigolion y stryd hefyd ymhlith tri arall sydd wedi eu cyhuddo o gyhuddiadau tebyg.

Y pedwar yw: Samora ‘Black Dee’ Roberts, 32 oed o James Turner Street, a’i chymdogion – Tina Thomas, 46, Charlene Wilson, 29, ac Ian Wright, 38.

Cyhuddo o gyflenwi cyffuriau

Mae’r cyfan wedi eu cyhuddo o gyflenwi cyffuriau ym mis Mehefin y llynedd – dim ond canabis yn achos Tina Thomas, a chanabis a crac cocên yn achos y tri arall.

Doedd dim disgwyl iddyn nhw bledio yn y gwrandawiad heddiw yn Llys Ynadon Birmingham ond mae cyfreithiwr Tina Thomas eisoes wedi dweud y bydd hi’n pledio’n ddieuog.

Y tri arall yw Marvin Scott a Monique Walker, a oedd yn arfer byw yn y stryd, ac Omari George o Handsworth.