Arlywydd Assad Syria (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae o leiaf deuddeg o bobl, gan gynnwys pump o blant, wedi cael eu lladd wedi ymosodiadau gan awyrennau llywodraeth Syria ar ddinas Raqqay yng ngogledd ddwyrain y wlad.

Yn ôl Arsyllfa Syria ar Iawnderau Dynol mae dwsinau o bobl hefyd wedi cael eu hanafu.

Fe wnaeth y gwrthryfelwyr yn Syria gipio Raqqay ym mis Mawrth.

Dyma’r unig dref sydd dan reolaeth y gwrthryfelwyr ers i’r ymladd gychwyn yn Syria ym mis Mawrth 2011.