Mae Heddlu Manceinion yn holi offeiriad Pabyddol 82 oed yn dilyn honniadau ei fod wedi camdrin tair merch mewn ysgol gynradd yn Rochdale rhwng 1980 a 2000.

Yn ôl adroddiadau, roedd y Canon Mortimer Stanley yn offeiriad ym mhlwyf St Vincent De Paul yn ystod y cyfnod yma a’r merched yn ddisgyblion mewn ysgol gynradd oedd ar dir yr eglwys.

Honnir eu bod nhw wedi cael eu camdrin gan Mr Stanley yn ei gartref oedd hefyd gerllaw.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu mai honniadau hanesyddol sydd wrth wraidd yr ymchwiliad ond eu bod yn annog cyn-ddisgyblion sydd gan unrhyw wybodaeth i gyslltu â nhw.

“Rwyf eisiau sicrhau rhieni disgyblion presennol Ysgol St Vincent nag oes unrhyw honniadau am gamdrin yno ar hyn o bryd” meddai’r Ditectif Gwnstabl Chrisitan Chivers o Uned Gwarchod y Cyhoedd Heddlu Manceinion.