Galaru y tu allan i gartref Nelson Mandela
Mae De Affrica yn paratoi ar gyfer angladd a gwasanaethau coffa y cyn Arlywydd Nelson Mandela fu farw dydd Iau yn 95 oed.
Bydd arweinwyr o bedwar ban byd yn hedfan i Dde Affrica yr wythnos nesaf gan gynnwys yr Arlywydd Barack Obama a’r cyn- Arlywyddion George W Bush a Bill Clinton.
Fe fydd wythnos o alaru yn Ne Affrica yn cychwyn yfory efo diwrnod cenedlaethol o weddi ag adlewyrchu.
Bydd y Cynlluniad Cenedlaethol a Chyngor Cenedlaethol y Taleithau yn cyfarfod hefyd i dalu teyrnged i arlywydd croenddu cyntaf ag arlywydd democrataidd cyntaf y wlad.
Fe fydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal hefyd yn stadiwm Johannesburg ble gwnaeth Nelson Mandela ei ymddangosiad cyhoeddus olaf yn seremoni clo Cwplan y Byd yn 2010.
Bydd gwasanaethau coffa swyddogol yn cael eu cynnal yn ogystal ym mhob un o daleithau a rhanbarthau De Affrica.
Bydd yr angladd yn cael ei gynnal ym mhentref genedigol Qunu yn nwyrain y wlad.
Coffau yng Ngwledydd Prydain
Bydd yna funud o gymeradwyaeth er anrhydedd i Nelson Mandela ar gychwyn pob un o gemau pêl-droed yr Uwch Gyngrhair yng Nghymru a Lloegr heddiw.
Mae Cyngrhair yr Alban a’r Gyngrhair Bêl-droed wedi argymell cynnal yr un math o derynged cyn eu gemau nhw.
Cynhaliwyd gwylnos yn Sgwâr Trafalgar gyferbyn â Llysgenhadaeth De Affrica neithiwr ar ôl gwasanaeth arbennig yn Eglwys Gadeiriol St Paul.
Mae’r Swyddfa Dramor wedi gofyn i holl faneri cenedlaethol gwledydd y Dernas Unedig chwifio ar hanner y mast tan wyth o’r gloch nos Iau.
Fe fydd gwasanaeth o ddiolchgarwch yn cael ei gynnal yn Abaty Westminster ar ôl yr angladd a bydd Senedd San Steffan yn cynnal seremoni arbennig i nodi ei fywyd hefyd.