David Traill (llun Heddlu'r Alban)
Cynhaliwyd angladd peilot yr hofrennydd syrthiodd ar ben bar Clytha yn Glasgow dros wythnos yn ôl gan ladd naw o bobl.
Y Capten David Traill, 51 oed, oedd peilot hofrennydd yr heddlu a heddiw fe wnaeth swyddogion yr heddlu, peilotiaid yr ambiwlans awyr a pharafeddygon ffurfio gosgordd wrth i’r arch gael ei chludo i mewn i Brifysgol Glasgow ar gyfer y gwasanaeth.
Roedd Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon a’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Kenny McAskill ymhlith y galarwyr.