Traffordd yr M4
Mae modd cael gwared â’r tagfeydd ar yr M4 ger Casnewydd am draean côst cynlluniau Llywodraeth Cymru yn ôl adroddiad gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r Sefydliad Materion Cymreig (SMC) yn honni bod modd creu ‘Ffordd Lâs” trwy gyslltu’r A48 i’r de o Gasnewydd â hen ffordd y gwaith dur i’r dwyrain o’r ddinas – cynllun fuasai’n costio £380 miliwn o’i gymharu â chynllun Llywodraeth Cymru i greu traffordd newydd ar gôst o o leiaf £936 miliwn.

Mae’r adroddiad wedi cael ei gyhoeddi ar y cyd efo’r Sefydliad Siatredig dros Logisteg a Thrafnidiaeth dan gadeiryddiaeth yr Athro Stuart Cole, sy’n arbennigwr ar drafnidiaeth ac sydd wedi cynghori llywodraethau Cymru a San Steffan yn y gorffennol.

Mae’r Athro Cole yn feirniadol o bapur ymgynghorol Llywodraeth Cymru ‘Coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd’ sy’n proffwydo y bydd trafnidiaeth yn cynyddu 20% yn yr ardal yma erbyn 2035.

Mae’r Athro Cole yn dadlau nad yw’r papur yn ystyried effaith trydaneiddio’r rheilffordd na datblygu’r Metro ar hyd corridor yr M4.

“Mae Metro Newcastle adeiladwyd yn y 90au a rhwydwaith tram Bordeaux orffenwyd yn 2004 wedi gweld gostyngiad o 30% o’r traffig sy’n llifo i mewn i’r dinasoedd yma yn ystod yr oriau brig. Gellir disgwyl yr un math o ganlyniad yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

“Buasai’r Ffordd Las hefyd yn ateb y problemau trafnidiaeth ar yr M4 wrth iddyn nhw godi. Hefyd gan y buasai modd adeiladu’r ffordd yn gynt nag adeiladu traffordd, yna mi fuasai yn ateb problem y tagfeydd ynghynt.

“ Buasai cyfuno hyn efo’r Metro a thrydaneiddio’r rheilffordd yn rhoi mwy na digon o ryddhad o’r tagfeydd erbyn 2035,” meddai.

Angenrheidiol

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod cael gwared â’r tagfeydd yn ardal Casnewydd yn angenrheidiol ar gyfer economi Cymru ac fe wnaeth y Canghellor George Osbourne gadarnhau cefnogaeth San Steffan i ffordd liniaru newydd i’r M4 ym ddiweddar gan ddisgrfio’r cynllun fel un o’r cynlluniau ffyrdd pwysicaf yn y DU.

Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi dweud y byddan nhw’n ystyried mynd i gyfraith os na fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cynlluniau eraill – yn enwedig cynllun y SMC.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn ymgynghori ynglyn â chynlluniau i wella’r M4 o amgylch Casnewydd a’r dyddiad cau yn hyn o beth ydi 16 Rhagfyr.