Mae lori oedd yn cario sylwedd ymbelydrol peryglus wedi cael ei ddwyn ym Mecsico.
Dywedodd yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol ei fod yn cynnwys cobalt-60 sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer triniaeth radiotherapi i bobl sy’n dioddef o ganser.
Digwyddodd y lladrad ddydd Llun pan oedd y lori’n cario’r sylwedd i ganolfan storio gwastraff ymbelydrol o ddinas ogleddol Tijuana.
Meddai’r Asiantaeth bod y sylwedd yn “eithriadol o beryglus” os yw’n cael ei ddifrodi neu os yw’r gorchudd amddiffynnol yn cael ei dynnu.