Cocen
Mae cocên gwerth tua £10,000  wedi cael ei ddarganfod mewn fan yn ardal Caerdydd.

Cafodd y fan Ford Transit ei stopio gan yr heddlu yng nghyffordd 28 ar yr M4 ddydd Mercher am tua 7:20 yr hwyr.

Fe wnaeth yr heddlu arestio dau ddyn a dynes a oedd yn teithio yn y fan a chafodd chwarter cilo o gocên ei ddarganfod.

Bydd Gareth Baird, 46, a Katherine Thomas, 40, o Dremorfa, Caerdydd a Raymond Lawrance, 28, o Luton yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, Rhagfyr 9 wedi eu cyhuddo o  fwriadu i werthu cocên. Mae Gareth Baird a Katherine Thomas wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae’r Ditectif Arolygydd, Paul Latham o Heddlu De Cymru wedi apelio ar y cyhoedd am unrhyw wybodaeth am gyffuriau yn y ddinas ac yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 neu  0800 555 111.