Mae Hezbollah wedi dweud bod un o’i benaethiaid wedi cael ei ladd y tu allan i’w gartref yn Beirut.
Cafodd Hussein al-Laqis ei lofruddio ym mhrifddinas Libanus wrth iddo ddychwelyd adref o gwmpas hanner nos, meddai datganiad a gyhoeddwyd gan y grŵp.
Mae’r datganiad yn cyhuddo Israel o fod y tu ôl i’r llofruddiaeth gan ddweud bod yr Israeliaid wedi ceisio ei ladd sawl gwaith yn y gorffennol.
Mae Hezbollah hefyd wedi bod yn ymladd ochr yn ochr â lluoedd Arlywydd Bashar Assad yn y rhyfel cartref yn Syria sydd wedi esgyn ar ymosodiadau ar draws Libanus cyfagos.
Mae Hezbollah wedi disgrifio Hussein Al-Laqis fel un o sylfaenwyr y grŵp terfysgol a gwleidyddol.