Bangor
Hybu datblygiad Bangor, Aberystwyth a Chaerfyrddin fel dinas-ranbarthau yw un o argymhellion adroddiad er mwyn cryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith a gafodd ei gyhoeddi heddiw.
Y gobaith yw y byddai hynny’n ei gwneud hi’n haws i asio adfywiad economaidd a gwelliannau seilwaith gyda thwf ieithyddol yr ardaloedd hynny.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gymunedau Cymraeg, dan gadeiryddiaeth Rhodri Llwyd Morgan, a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru’r llynedd yn dilyn ffigyrau siomedig yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Cyfrifiad yn 2011.
Bu’r grŵp yn canolbwyntio ar ardaloedd yng Nghymru lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad â’i ddefnyddio’n fwy eang a rheolaidd.
Mae argymhellion eraill yr adroddiad yn cynnwys:
– Gwella effaith polisïau’r Llywodraeth ar y Gymraeg drwy gael Llywodraeth Cymru i roi arweiniad clir ar Asesu Effaith Ieithyddol.
– Cysoni darpariaeth addysg 3-14 oed yn Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin fel bod pob disgybl yn rhugl ac yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.
– Gwella mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod ethos a rhaglenni yn cael eu creu i hybu defnydd cymdeithasol ac anffurfiol o’r Gymraeg mewn cydweithrediad â’r ysgolion a’u cymunedau.
– Parhau i annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chymdeithasu yn yr iaith Gymraeg trwy gefnogi mudiadau a chymdeithasau a thrwy sbarduno mentrau newydd.
–
– Cytuno ar dargedau i ehangu gweithlu dwyieithog a gweithredu mewnol dwyieithog mewn awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd a sefydliadau addysg bellach ac uwch sy’n gwasanaethu Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
– Ehangu peilot Cynllun Aman Tawe i ardaloedd eraill sydd wedi profi shifft ieithyddol amlwg yn y blynyddoedd diweddar a chefnogi datblygiadau pellach.
‘Materion diddorol’
Meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: “Roedd ffigurau’r cyfrifiad yn 2011 yn dangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg mewn rhai ardaloedd lle’r oedd y Gymraeg yn cael ei siarad yn eang.
“Bydd darganfyddiadau’r Grŵp yn ein cynorthwyo i fynd i’r afael â ffigurau Cyfrifiad, ac i sicrhau bod pobl yn gallu byw eu bywydau trwy gyfrwng yr iaith.”
“Mae’r adroddiad yn codi nifer o faterion diddorol y byddaf yn eu hystyried cyn cynnig ein hymateb.”
Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried yr adroddiad ac yn ymateb yn llawn iddo faes o law.