Mae dyn 37 oed yn cael ei holi mewn cysylltiad â saethu  plismones mewn tŷ yn Leeds bore ma.

Roedd Heddlu Swydd Efrog wedi apelio am help y cyhoedd i ddod o hyd i James Leslie, 37, ers y digwyddiad am 4yb yn Ffordd Cardigan, Hyde Park yn y ddinas.

Cafodd ei arestio am 10:10 y bore ma yn ardal Headlingley o’r ddinas, yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu.

Mae’r blismones yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ond mae’n debyg nad yw ei bywyd mewn perygl.

Cafodd gwn ei danio ati wrth iddi hi a phlismon arall ymateb i ddigwyddiad yn y tŷ bore ma.