Mae’r Post Brenhinol ac Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) wedi dod i gytundeb mewn egwyddor ynglŷn â chyflogau, pensiynau a materion eraill mewn cysylltiad â phreifateiddio’r gwasanaeth.

Mae’r CWU wedi bod yn bygwth mynd ar streic ond mae hynny bellach yn llai tebygol cyn y Nadolig.

Ond bydd rhaid i’r cynllun gael sêl bendith gweithgor yr undeb cyn cael ei dderbyn yn swyddogol.

Ystyried

“Bydd y cytundeb yn cael ei hystyried tros rhai dyddiau ac yna bydd aelodau o’r undeb yn pleidleisio,” meddai llefarydd dros yr undeb.

“Bydd manylion pellach yn cael eu rhyddhau ar ôl cyfarfod gyda gweithgor  yr undeb.”

Mae Chris Combemale, cyfarwyddwr gweithredol yr Asiantaeth Farchnata, wedi croesawu’r cyhoeddiad. Dywedodd: “Mae hyn yn newyddion calonogol i ddegau o filoedd o bobol a chwmnïau sy’n dibynnu ar waith y gwasanaeth bob diwrnod.”

“Mae economi Prydain yn gwella ar ôl y dirwasgiad ac allwn ni ddim fforddio ei ddal yn ôl, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn.”