Tatws Sir Benfro Llun: Puffin Produce Cyf
Mae tatws cynnar Sir Benfro wedi ennill statws enw bwyd gwarchodol gan y Comisiwn Ewropeaidd, sydd hefyd yn gwarchod cynnyrch fel Champagne, Parma Ham a Phorc Peis Melton Mowbray.
O heddiw ymlaen, bydd enwau tatws cwmni Puffin Produce Cyf o Sir Benfro yn cael eu gwarchod ledled Ewrop er mwyn osgoi dynwared neu gam-ddefnyddio’r enw.
Fe gafodd y cais i’r Comisiwn Ewropeaidd ei wneud gan DEFRA (Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) ar ran Puffin Produce ac mae’r Arwydd Daearyddol Gwarchodol Ewropeaidd (PGI) yn un o dri label gan Enwau Bwyd Gwarchodol Ewropeaidd.
‘Gwybodaeth gynhenid’
“Mae’r bobol sy’n tyfu tatws yma hefo gwybodaeth gynhenid o amodau plannu lleol ac mae llawer o sgiliau wedi cael eu pasio mlaen ers cenedlaethau,” meddai rheolwr maes Puffin Produce, Stephen Mathias.
Mae tatws Sir Benfro wedi bod yn tyfu yn yr ardal ers y 1700au ac maen nhw rŵan hefo statws cyfartal i Gig Oen a Chig Eidion Cymru o dan y gyfraith Ewropeaidd.
Dywedodd Huw Thomas, cyfarwyddwr Puffin Produce:
“Fe allwch chi ddweud ein bod ni dri chwarter o’r ffordd i gael cinio PGI llawn o Gymru!”