Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio y gall arfordir Gogledd Cymru fod dan fygythiad o lifogydd fory a dydd Gwener.
Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi rhagweld y bydd gwyntoedd cryfion yn cyrraedd Gogledd Cymru, yn benodol rhwng Ynys Môn a Lerpwl.
Mae gwyntoedd cryfion a llanw uchel yn debygol o arwain at donnau uchel, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n cynghori pobol i gadw draw o draethau ar hyd yr arfordir.
Bydd gweithwyr o’r asiantaeth yn goruchwylio safleoedd gan sicrhau fod amddiffynfeydd llifogydd yn gweithio.
Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael bob 15 munud ar eu gwefan.