Lansio'r gem yn Techniquest, Caerdydd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dyfeisio ffordd anarferol o godi ymwybyddiaeth ymysg rhieni plant ifanc ynglŷn â brechiadau ffliw’r gaeaf hwn – gyda gêm gyfrifiadurol.
‘Curwch Ffliw’ yw enw’r gêm, a gafodd ei lansio ddydd Sadwrn yn Techniquest yng Nghaerdydd, gyda’r gêm wedi’i anelu at rieni i chwarae gyda’u plant sydd yn gymwys ar gyfer y brechiad, fel ffordd o godi ymwybyddiaeth o’r rhaglen.
Mae brechiadau ffliw am ddim yn cael eu cynnig y gaeaf hwn i blant 2 a 3 oed yng Nghymru, yn ogystal â phlant ym mlwyddyn 7 yn yr ysgol, y gaeaf hwn.
Caiff y brechiad ffliw ei gynnig am ddim bob blwyddyn i bobl sydd â risg uwch o ddal yr haint, gan gynnwys pobl 65 oed a throsodd, rheiny sydd gyda chyflyrau iechyd hirdymor, a menywod beichiog.
Ac yn wahanol i’r brechiad arferol, brechiad drwy chwistrell trwyn fydd plant yn derbyn y flwyddyn hon yn hytrach na’r pigiad.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru mai bwriad y rhaglen yn y pen draw fydd cynnig brechiad i bob plentyn rhwng 2 ac 16 oed yn flynyddol.
Lansio’r gêm
Cafodd y gêm ‘Curwch Ffliw’, sydd yn medru cael ei chwarae ar nifer o declynnau electronig gan gynnwys ffonau ‘smart’, tabledi a chyfrifiaduron, ei lansio yn Techniquest gyda sialens i rieni a phlant oedd yn ymweld am y dydd.
Bwriad y gêm yw clicio ar luched sydd yn ymddangos ar y sgrin cyn gynted â phosib, gan weithio drwy’r lefelau, gyda ffeithiau ynglŷn â’r brechiad yn ymddangos ar y sgrin rhwng pob lefel.
Ac roedd y plant cyntaf i orffen y gêm a ‘llorio’r lluchaid’ yn cael crys-t Curwch Ffliw! am ddim.
Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Heintiau y Gellir eu Hatal trwy Frechlyn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r gêm yn ffordd syml ond difyr o gyflwyno’r neges i fwy o bobl, a’u hannog i gael y brechiad, yn enwedig os ydynt mewn grŵp ‘risg’.
“Mae plant dwy a thair oed yn grŵp pwysig iawn, oherwydd hyd yn hyn dim ond un o bob pedwar (25.4%) gafodd eu brechiad. Os all pob un ohonynt lorio’r lluchaid ar-lein, gallant yn sicr lorio’r lluchaid go iawn trwy gael eu brechiad ffliw chwistrell trwyn yn eu meddygfa! Ond dylai rhieni frysio cyn i’r ffliw gyrraedd.”
Mae’r gêm ar gael o wefannau www.beatflu.org neu www.curwchffliw.org, ac mae modd ei chwarae hefyd drwy dudalennau Facebook Beat Flu neu Curwch Ffliw.