Mae Banc Brenhinol yr Alban a Barclays ymhlith nifer o fanciau sydd wedi dod i gytundeb gwerth £1.4 biliwn gyda rheoleiddwyr Ewropeaidd i dalu dirwyon yn sgil yr helynt Libor.
Mae wyth o fanciau wedi dod i gytundeb gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â thalu dirwyon yn dilyn honiadau eu bod wedi dylanwadu ar gyfraddau llog Libor, sy’n cael eu defnyddio i benderfynu prisiau nwyddau ariannol fel morgeisi.
Fe fydd RBS yn gorfod talu dirwy o £325 miliwn am ei ran yn yr helynt. Ni fydd Barclays yn gorfod talu dirwy o £572 miliwn ar ôl i’r banc chwythu’r chwiban ar ymdrech arall i ddylanwadu ar gyfraddau llog Euribor yn Tokyo.
Mae Barclays ac RBS eisoes wedi talu dirwyon yn dilyn ymchwiliad i’r helynt.
Ymhlith y banciau eraill sydd wedi cael dirwy gan y Comisiwn Ewropeaidd mae Deutsche Bank yn yr Almaen a Societe Generale yn Ffrainc.