Ken Skates
Mae cynllun gwerth £3.4 miliwn a fydd yn rhoi cymorth i droseddwyr ifanc a phobol a fu mewn gofal ddod o hyd i waith, wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ‘Symud Ymlaen’ yn rhedeg am ddwy flynedd ac yn cynnig profiad gwaith gyda thâl a chefnogaeth gan fentoriaid i 400 o bobol ifanc rhwng 16-18.  Mi fydden nhw’n gweithio am 25 awr yr wythnos am gyfnod o chwe mis ac yn derbyn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Mae ffigyrau gan Lywodraeth Cymru wedi dangos mai 7% o bobol ifanc 19 oed sydd wedi gadael gofal ac sydd ddim mewn addysg neu waith, sydd mewn cysylltiad â’u hawdurdodau lleol. Mae pobol ifanc sydd wedi bod yn y system gyfiawnder hefyd fwy tebygol o fod allan o waith am chwe mis ar ôl cael eu rhyddhau, yn ôl y Comisiwn Archwilio.

‘Ail gyfle’

BIG Fund sy’n ariannu’r cynllun a’r elusen i bobol ifanc digartref, Llamau, fydd yn gyfrifol am arwain y bobol ifanc a’u helpu i ddysgu’r sgiliau fydd eu hangen er mwyn dod o hyd i waith.

Bydd yr elusen yn cydweithio gydag awdurdodau lleol a bydd y rhan fwyaf o’r profiad gwaith yn y sector preifat ac mewn Mentrau Cymdeithasol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates:  “Dro ar ôl tro, mae ffigyrau yn dangos i ni mai pobol ifanc sydd wedi bod mewn gofal neu bobol ifanc sydd wedi cael eu cyhuddo o drosedd yw’r rhai anoddaf i’w cyrraedd yn y farchnad lafur. Ond nid yw hyn yn golygu ei bod hi’n amhosib i’w cyrraedd.”

“Bydd Symud Ymlaen yn adeiladu ar lwyddiant cynlluniau eraill fel Cynnydd Swyddi Cymru ac yn cynnig lleoliadau gwaith gyda thâl a fydd yn rhoi sgiliau pwysig i’r bobol ifanc.”

“Yn syml, gall hyn fod yr ail gyfle maen nhw ei angen.”

Ychwanegodd Frances Beecher, Prif Weithredwr Llamau: “Mae Symud Ymlaen am gyfuno hyfforddiant arbenigol â chefnogaeth mentoriaid ac rydym yn hyderus y bydd yn arddangos y buddion y gall bobol Ifanc ddod i’r gweithle a’u cymunedau.”