Carl Sargeant
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bil drafft heddiw a fyddai’n newid y system gynllunio yng Nghymru.
Fe fyddai’r bil yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i Weinidogion Cymru wrth wneud penderfyniadau uniongyrchol am ddatblygiadau pwysig gan gynnwys prosiectau ynni sydd rhwng 25 a 50 megawat.
Mae’r Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant, hefyd wedi galw am sylwadau mewn ymgynghoriad ynghylch y newidiadau.
Meddai Carl Sargeant ei fod am weld newid yn y diwylliant cynllunio – gan symud o reoleiddio datblygiadau i alluogi datblygiadau priodol a helpu i sicrhau’r cartrefi, swyddi a’r seilwaith.
Mae’r cynlluniau yn adeiladu ar lawer o argymhellion adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd a baratowyd gan y Grŵp Cynghori Annibynnol, wedi’i gadeirio gan John Davies.
‘Hwyluso datblygiadau’
Dywedodd Carl Sargeant: “Yn hytrach na rheoleiddio datblygiadau, rydyn ni am weld pwyslais y broses gynllunio ar hwyluso datblygiadau priodol.
“Rhaid i’n system gynllunio ganiatáu’r cynnydd mewn cartrefi, swyddi a seilwaith y mae hawl gan y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol i’w ddisgwyl. Rwy’ wedi ymrwymo i hyrwyddo gwelliannau ac fe fyddaf yn gweithio gydag eraill i sicrhau diwylliant cadarnhaol ym maes cynllunio yma yng Nghymru.
“Bydd y cynigion yn sicrhau bod penderfyniadau cynllunio yn rhai teg, yn gyson, ac yn cael eu gwneud gan y Llywodraeth ar y lefel gywir. Bydd Llywodraeth Cymru’n arwain drwy esiampl wrth wneud penderfyniadau cynllunio mewn perthynas â’r prosiectau seilwaith datganoledig mwyaf – datblygiadau o bwys cenedlaethol.”
‘Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol’
Ychwanegodd John Davies, cadeirydd Grŵp Cynghori Annibynnol a oedd yn edrych ar ffyrdd y dylid newid y system gynllunio: “Bydd y rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Bydd yn creu system gynllunio unigryw Gymreig sy’n arwain at ddatblygiadau sy’n ateb anghenion pobl Cymru. Rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i adeiladu system gynllunio sy’n addas ar gyfer y 21ain Ganrif.”
‘Dim sôn am y Gymraeg’
Ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi pryder nad oes sôn am y Gymraeg yn y Bil Cynllunio Drafft.
Bydd dirprwyaeth o aelodau o’r mudiad yn cwrdd â Carl Sargeant wythnos nesaf i drafod y Bil.
Bydd y mudiad yn trafod sut mae’r Bil yn ymateb i’r argyfwng a amlygwyd yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad.
Wrth ymateb i’r Bil Cynllunio, dywedodd Robin Farrar Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r system gynllunio yn cael effaith andwyol ar y Gymraeg ar hyn o bryd, a byddwn ni’n ystyried y cynigion sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw. Fodd bynnag, mae’n warthus ar ôl yr holl dystiolaeth mae’r Llywodraeth wedi ei derbyn, nad oes sôn am y Gymraeg yn y Bil drafft.”
Ychwanegodd: “Mae enghreifftiau lu o broblemau’r gyfundrefn tai a chynllunio bresennol – o Fodelwyddan, i Fethesda a Phenybanc. Does dim amheuaeth bod y datblygiadau tai hyn yn anghynaladwy ac yn cael effaith niweidiol ar yr iaith. Nid yw mân newidiadau i’r drefn yn ddigonol – byddwn yn mynnu bod angen bil cynllunio sy’n gadael i’r Gymraeg dyfu.”
Mae’r Gymdeithas wedi rhoi tan Chwefror 1 i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i drawsnewid y system gynllunio fel rhan o weithredu mewn chwe maes polisi er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod.
‘Colli cyfle euraid’
Mae llefarydd cynllunio Plaid Cymru, Llŷr Gruffydd wedi mynegi ei siom fod Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle euraid i gyflwyno system gynllunio fodern sydd yn addas i gwrdd ag anghenion pobl Cymru yn yr 21ain ganrif.
Dywedodd Llŷr Gruffydd AC: “Ar hyn o bryd, mae’r broses yn rhy araf ac yn rhy fiwrocrataidd.
“Mae angen diwygio o’r bôn i’r brig. Mae’r system bresennol yn seiliedig ar Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947 ac y mae wedi dyddio yn enbyd. Mae arnom angen system fodern sydd yn cwrdd ag anghenion cymdeithas fodern.
“Gyda mymryn o uchelgais, gallai’r llywodraeth ddefnyddio’r Bil hwn i gryfhau’r ddarpariaeth tai fforddiadwy lle mae eu hangen, gallai gyflwyno rhagdyb o blaid prosiectau ynni adnewyddol cymunedol ar raddfa fechan, a gallai gefnogi canol trefi a busnesau bach trwy ragdybio o blaid datblygiadau siopau yng nghanol trefi, a sicrhau fod pob datblygiad siopau mawr ar gyrion trefi yn destun Asesiad Effaith Manwerthu.
“Bydd angen cryfhau’r Bil hwn yn sylweddol os yw am wneud effaith cadarnhaol, ac fe fyddaf i’n gweithio’n galed i wneud yn siŵr y bydd hyn yn digwydd.”
Ymgynghoriad
Bydd yr ymgynghoriad ar y Bil Cynllunio (Cymru) drafft yn rhedeg tan 26 Chwefror 2014. Bydd yn cael ei gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddiweddarach yn 2014.