Morlyn Abertawe
Fe all datblygiad morlyn ym Mae Abertawe fod gwerth £300 miliwn i’r economi leol yn ôl adroddiad newydd.

Mae’n un o’r cynlluniau posib a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Prydain fel rhan o’i chynllun isadeiledd, sy’n werth £375 biliwn, ar gyfer prosiectau adeiladu mawr hyd at 2030.

Mae’r adroddiad gan Uned Ymchwil Economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd yn dweud y byddai’r datblygiad yn creu bron i 2000 o swyddi.

Dywed yr uned y byddai’r lagŵn yn creu dros £5m o wariant lleol yn ystod y cyfnod gweithredol.

Yn ychwanegol i’r prosiect ei hun, byddai rhwng 65 a 90 swyddi ychwanegol yn cael eu creu yn gysylltiedig â gwariant gan ymwelwyr.

Mae cwmni Tidal Lagoon Swansea Bay yn bwriadu rhoi cais cynllunio i mewn am y prosiect yn y flwyddyn newydd ond bydd y prosiect yn gorfod cael caniatâd gan Lywodraeth y DU gyntaf.

Mae’r cwmni yn dweud y bydd y morlyn yn cynhyrchu trydan drwy wneud defnydd o lanw cryf yr ardal gan wneud digon i bweru dros 10,000 o gartrefi.

Mae Tidal Lagoon Swansea Bay hefyd wedi datgan y bydd yn chwilio am gyflenwyr Prydeinig a Chymraeg o rannau hanfodol i greu sylfaen y morlyn er mwyn creu economi gynaliadwy o’r datblygiad.

‘Sicrhau bod Cymru’n  manteisio’

Meddai Mark Shorrock , prif swyddog gweithredol y cwmni: “Bae Abertawe fydd y cyntaf mewn cyfres o ddatblygiadau yng Nghymru a’r DU felly gall seilwaith cyflenwi a ddatblygwyd fel rhan o’r prosiect hwn ennill cyfleoedd ychwanegol yn y tymor hir wrth wasanaethu rhwydwaith ehangach o brosiectau morlynnoedd .

“Rydym am weld o leiaf 50% o ddeunyddiau o Gymru’n cael eu defnyddio wrth greu’r  morlyn llanw cyntaf a byddwn yn gweithio gyda diwydiant yng Nghymru i sicrhau bod y rhanbarth yn manteisio.”

Meddai Calvin Jones o Uned Ymchwil Economi Cymru: “Rydym yn amcangyfrif bydd y £300 miliwn o wariant dros gyfnod datblygu o dair blynedd, gan ddechrau ym mis Mawrth 2015, yn arwain at gyfanswm o £454 miliwn ychwanegol yn cael ei wario yng Nghymru .

“Mae hyn yn golygu, am bob £1 miliwn fydd yn cael ei wario, bydd  dros hanner miliwn o weithgarwch economaidd ychwanegol yn cael ei greu. Bydd tua hanner hyn, bron i £223 miliwn, yn y sector adeiladu, gyda gweithgynhyrchu a chynhyrchu yn werth £170m.

“Rydym yn amcangyfrif y bydd tua £34 miliwn yn cael ei wario ar wasanaethau ariannol a phroffesiynol gan gynnwys gweithgareddau rheoli prosiectau, cynllunio a pheirianneg.”