Angela Merkel
Mae plaid geidwadol y Canghellor Angela Merkel wedi dod i gytundeb gyda phlaid y Democratiaid Cymdeithasol yn yr Almaen i ffurfio llywodraeth newydd, ddeufis ers etholiadau’r wlad.
Daw’r cytundeb yn dilyn trafodaethau dros nos rhwng cynrychiolwyr o blaid Angela Merkel a’r Democratiaid Cymdeithasol.
Roedd Angela Merkel wedi ennill yr etholiadau ym mis Medi ond nid oedd ganddi fwyafrif yn y Senedd felly bu’n rhaid iddi ddod i gytundeb gyda phlaid arall.
Bydd yn rhaid i’r glymblaid rhwng dwy o bleidiau mwyaf yr Almaen gael cymeradwyaeth aelodau’r Democratiaid Cymdeithasol, ac mae rhai yn amheus iawn o’r cytundeb. Mae disgwyl y canlyniad erbyn canol mis Rhagfyr.