Nigella Lawson
Fe fydd dwy chwaer fu’n gweithio fel cynorthwywyr personol i Nigella Lawson a’i chyn-wr Charles Saatchi yn ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o ddefnyddio cerdyn credyd, gafodd ei roi iddyn nhw gan y cwpl, i brynu nwyddau i’w hunain.

Honnir bod yr Eidalwyr Francesca ac Elisabetta Grillo wedi twyllo drwy gymryd mantais o’u swyddi fel cynorthwywyr personol i ddefnyddio cerdyn credyd y cwmni ar gyfer eu defnydd personol.

Clywodd y llys ddoe bod Charles Saatchi wedi cyfeirio at ei gyn wraig fel “Higella” mewn e-bost gan ei chyhuddo o fod dan ddylanwad  cyffuriau ac o ganiatáu i’r ddwy chwaer wario arian y cwpl ar beth bynnag roedden nhw ei eisiau.