David Cameron
Mae David Cameron wedi rhoi addewid i gyfyngu ar y budd-daliadau y gall mewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd eu hawlio  am dri mis.

Bu’r Prif Weinidog yn amlinellu ei gynlluniau i newid y rheolau gan gyfaddef ei fod yn rhannu pryderon rhai o aelodau’r Blaid Geidwadol ynglŷn â llacio’r rheolau am fewnfudwyr o Fwlgaria a Rwmania.

Daw ei sylwadau mewn erthygl i’r Financial Times wrth i ddwsinau o ASau Ceidwadol alw ar y Llywodraeth i anwybyddu cyfraith Ewropeaidd ac ymestyn y rheoliadau ar Rwmania a Bwlgaria tan 2018.

Dywedodd David Cameron bod methiant Llafur i gyflwyno cyfyngiadau mwy llym ar wledydd fel Gwlad Pwyl yn 2004 wedi bod yn “gamgymeriad dybryd” a’i fod yn “rhannu’r pryderon” am beth fydd yn digwydd ar ôl 1 Ionawr.

“Rydyn ni’n newid y rheolau fel nad yw unrhyw un sy’n dod i’r wlad hon yn gallu disgwyl hawlio budd-daliadau diweithdra yn syth – ni fyddan ni’n eu talu am y tri mis cyntaf,” meddai.

Ychwanegodd na fydd mewnfudwyr yn gallu hawlio budd-daliadau am fwy na chwe mis, fe fydd profion llymach i fewnfudwyr sydd eisiau hawlio budd-daliadau ac fe allai rhai sy’n ddigartref neu’n cardota ar y strydoedd gael eu hanfon yn ôl adref.

Bydd cwmnïau sy’n talu llai na’r isafswm cyflog hefyd yn wynebu dirwy o hyd at £20,000.