Jane Hutt
Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru Jane Hutt wedi datgan ei barn ar ymateb Llywodraeth Prydain i argymhellion Comisiwn Silk – gan ddweud fod y cyhoeddiad yn cynnig “cytundeb da i Gymru”.
Cadarnhaodd Llywodraeth y DU yn eu hymateb llawn yr wythnos diwethaf eu bod yn cytuno a nifer o argymhellion Silk, gan gynnwys datganoli trethi stamp, tir a thirlenwi, a phwerau dros dreth incwm ar ôl refferendwm – ond nid datganoli treth teithwyr awyr.
Mewn datganiad i’r Cynulliad brynhawn yma, dywedodd Jane Hutt fod y cyhoeddiad a wnaed gan David Cameron a Nick Clegg ar ddechrau’r mis yn “gam sylweddol ymlaen i ddatganoli”, a bod Siambr y Cynulliad i gyd wedi’i groesawu.
Hutt yn hapus
Cymeradwyodd Hutt y ffaith fod y rhan fwyaf o argymhellion Silk wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth San Steffan, ond fe ategodd y siom o du Llafur nad oedd datganoli trethi awyr wedi cael eu cynnwys.
Dywedodd hefyd fod angen diwygio fformiwla Barnett er mwyn rhannu arian y Trysorlys yn deg i Gymru cyn bwrw ymlaen gydag unrhyw gynlluniau i ddatganoli pwerau dros dreth incwm.
“Dwi mor falch o weld fod y rhan helaeth o brif argymhellion Silk wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth y DU,” meddai Hutt. “Mae yna bethau manylach i’w harchwilio o hyd mewn trafodaethau pellach gyda’r Trysorlys a’r Swyddfa Gymreig, ond mae’r pecyn o ddiwygiadau ar y cyfan yn symud i gyfeiriad clir.
“Bydd datganoli trethi annomestig i Gymru yn arf pwysig y gallwn ni ddefnyddio i hybu swyddi a’r economi, ac yn rhoi’r hyblygrwydd i ni sydd gan Weinidogion yr Alban yn barod.
“Fodd bynnag, nid ydym wedi cael popeth yr oedden ni’n galw amdanyn nhw. Bydda’ i’n parhau i bwyso’r achos [dros ddatganoli trethi awyr].
“Dwi hefyd yn siomedig nad yw’r math o ddatganoli treth incwm fydd yn cael ei gynnig i ni yn ein caniatáu i addasu cyfraddau yn annibynnol, fel yr awgrymodd Silk. Yn lle hynny mae gennym ni’r system ble na allwn ni newid un gyfradd heb newid y lleill.
“Roedd hwn yn gyfle gafodd ei fethu ac fe fydda i’n parhau i bwyso am ailedrych ar hyn.”
Mynegodd ei bodlonrwydd gydag argymhelliad Silk a chynlluniau Llywodraeth y Du i gynnig pwerau treth incwm dim ond ar ôl refferendwm, gan ddweud fod hyn yn sicrhau mai “pobl Cymru ddylai gael y gair olaf” ar y mater.
Ac fe ailadroddodd hi awgrymiad Comisiwn Silk fod angen diwygio fformiwla Barnett, cyn datganoli treth incwm.
Dywedodd ei bod hi’n flaenoriaeth i basio deddfwriaeth ar y refferendwm a’r diwygiadau ariannol eraill – ond hefyd i ddefnyddio pwerau benthyg cynnar i’w roi tuag at ymestyn yr M4.
‘Angen gweithredu’n gyflym’
Wrth ymateb i’r datganiad gan Jane Hutt, dywedodd AC Plaid Cymru Simon Thomas, sy’n aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol, fod angen gweithredu’r argymhellion cyn gynted â phosib, gan feirniadu’r penderfyniad i oedi nes datrys fformiwla Barnett cyn datganoli treth incwm.
“Mae’r Gweinidog Cyllid wedi talu teyrnged yn haeddiannol heddiw i waith Llywodraeth Cymru’n Un wrth gomisiynu Adroddiad Holtham a sicrhau’r pwerau yma i Gymru.
“Fodd bynnag, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu hyn cyn gynted â phosib. Tra’n bod ni’n cefnogi bwriad y llywodraeth i frwydro dros setliad ariannol teg i Gymru, does dim rheswm pam na allen nhw wneud hyn tra hefyd yn gweithio ar ddatganoli treth incwm.
“Dyw’r materion yma ddim yn perthyn i’w gilydd ac mae’n gamarweiniol i awgrymu’i fod e.
“Mae’n bwysig fod gan Lywodraeth Cymru bwerau codi trethi er mwyn gwella economi Cymru.”