Mae blaidd oedd wedi dianc o sw wedi cael ei saethu’n farw yn dilyn ymdrech fawr i ddod o hyd i’r anifail.
Roedd y blaidd wedi dianc o Sŵ Colchester yn Essex bore ma. Fe gadarnhaodd y sw bod yr anifail wedi cael ei ddifa am 4yh.
Daeth gweithwyr y sw yn ymwybodol fod pum blaidd wedi dianc bore ma, wedi i ffens gael ei ddifrodi.
Daethpwyd o hyd i bedwar o’r bleiddiaid ond roedd rhaid difa dau ohonyn nhw, yn ôl llefarydd ar ran y sw.
“Yn anffodus, gan fod dau flaidd wedi teithio’n bell o’r sw a bod gwn anesthetig yn cymryd 15 munud i weithio, roedd rhaid difa dau ohonyn nhw,” meddai’r llefarydd.
Bu hofrennydd yr heddlu yn Essex yn chwilio’r ardal am rai oriau.