Blaidd
Mae heddlu a gweithwyr sw yn chwilio am flaidd sydd wedi dianc o Sŵ Colchester yn Essex.

Daeth gweithwyr y sw yn ymwybodol fod pum blaidd wedi dianc tua 8 y bore ma,  wedi i ffens gael ei ddifrodi.

Daethpwyd o hyd i  bedwar o’r bleiddiaid ond roedd rhaid saethu dau ohonyn nhw’n farw, yn ôl llefarydd ar ran y sw.

“Yn anffodus, gan fod dau flaidd wedi teithio’n bell o’r sw a bod gwn anesthetig yn cymryd 15 munud i weithio, roedd rhaid saethu dau ohonyn nhw’n farw,” meddai’r llefarydd.

‘Ddim yn beryglus i’r cyhoedd’

Mae gweithwyr y sw wedi dweud fod y blaidd yn debygol o fod yn cuddio ac nad yw’n beryglus i’r cyhoedd.

Mae hofrennydd yr heddlu yn chwilio’r ardal ac mae gofyn i’r cyhoedd gadw’n glir o’r ardal, a chysylltu â’r gwasanaeth trwy alw 999 os oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth.