Kirsty Williams
Mae polisi chwythu chwiban Gwasanaeth Iechyd Cymru angen “newid radical” os yw am weithio’n llwyddiannus, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad.
Dywedodd Kirsty Williams nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd y mater o ddifri a’u bod angen dangos arweiniad.
Yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth gan ei phlaid i saith bwrdd iechyd Cymru, dangosodd hynny bod o leiaf chwech ohonynt heb sefydlu llinell ffon sy’n caniatau i weithwyr y GIG godi pryderon.
Dim ond dau ohonynt sydd wedi sefydlu cymorth i staff sydd am godi pryderon.
Cyhoeddwyd y polisi ym mis Gorffennaf gan Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford.
‘Pryder’
“Mae staff sy’n gweithio mewn byrddau iechyd ar draws Cymru angen llinell ffon chwythu chwiban fel eu bod yn gallu ffonio’n ddienw,” meddai Kirsty Williams.
“Mae hyn wedi digwydd yn yr Alban ar gost fach iawn. Testun pryder yw’r ffaith nad oes un bwrdd iechyd a wnaeth ymateb i’r ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth wedi sefydlu llinell ffon i’w staff.
“Rhaid i’r polisi fod yn glir ac yn gryno. Ry’n ni angen annog pobol i ddod ymlaen os oes ganddyn nhw bryderon am yr hyn sy’n digwydd yn eu gweithle.”
Dywedodd hefyd bod y polisi presennol yn “rhy gymhleth” ac fe all hynny adael pobol “mewn penbleth.”
Adolygiad
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n bwriadu adolygu’r polisi ym mis Mawrth 2014 a’u bod wedi’i “hymrwymo i ddatblygu diwylliant agored a thryloyw lle mae staff yn teimlo’n hyderus i godi pryderon yn lleol fel maen nhw’n digwydd. Fe fydd yr adolygiad yn sicrhau bod y polisi yn gwneud hynny.”