Mae cwmni ynni RWE wedi rhoi’r gorau i gynlluniau i godi fferm wynt enfawr yn y môr, a fyddai wedi costio hyd at £4biliwn, oddi ar arfordir Bryste.
Dywedodd y cwmni mai “pwysau masnachol” oedd yn y tu ôl i’r penderfyniad i beidio â chodi’r 240 o dyrbinau gwynt, ar adeg pan mae pryderon ynglŷn â buddsoddiad pellach yn y maes.
Mae’r Llywodraeth o dan bwysau ar hyn o bryd i daclo’r broblem o filiau nwy a thrydan yn cynyddu dros y gaeaf, gyda Mesur Ynni ar y ffordd yn yr wythnosau nesaf ac amheuon a fydd cefnogaeth i ynni gwynt yn parhau.
Mae’r cwmnïau ynni wedi cael ’eu beirniadu’n llym <http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/124216-beirniadu-sse-am-gynyddu-prisiau-ynni-o-8-2> yn ddiweddar am godi prisiau ynni tra’n cyhoeddi elw mawr.
Roedd grwpiau amgylcheddol eisoes wedi beirniadu’r prosiect yn Sianel Bryste, oedd yn cynnwys cynlluniau i godi tyrbinau hyd at 720 troedfedd o uchder.
‘Heriau technegol
Dywedodd y cwmni Almaeneg, sydd hefyd yn berchen npower, mai problemau’r farchnad yn ogystal â heriau technegol oedd wrth wraidd y penderfyniad i roi’r gorau i’r prosiect Atlantic Array. Yn ôl y cwmni roedd y rhain yn cynnwys dyfroedd dwfn a chyflwr anaddas gwaelod y môr.
“Doedd hwn ddim yn benderfyniad hawdd i ni wneud,” meddai’r cyfarwyddwr ynni gwynt Paul Cowling. “Fodd bynnag, oherwydd y sialensiau technegol a chyflwr y farchnad, nid dyma yw’r adeg iawn i RWE barhau â’r prosiect hwn.”
Cadarnhaodd fodd bynnag y byddai RWE yn parhau i weithio ar brosiectau ynni gwynt yn y môr mewn rhannau eraill o Brydain, ac mai dim ond y prosiect yn Sianel Bryste oedd yn anaddas ar hyn o bryd.
Dywedodd RenewableUK eu bod wedi siomi gyda’r penderfyniad, ond nad oedd yn fawr o syndod iddynt o ystyried y sialensiau technegol yn ymwneud a’i safle ar wely’r môr.
Dywedodd y Llywodraeth fod cynlluniau RWE i beidio â pharhau gyda’r datblygiad yn y Sianel wedi’i wneud am “resymau technegol yn unig”.