Ian Watkins
Mae cyn ganwr y Lostprophets, Ian Watkins, wedi pleidio’n euog i gyfres o droseddau rhyw, gan gynnwys dau gyhuddiad o geisio treisio babi.

Roedd yr achos yn erbyn y  canwr, 36 oed, o Bontypridd i fod i ddechrau heddiw yn Llys y Goron Caerdydd.

Roedd wedi gwadu 24 cyhuddiad o droseddau rhyw, gan gynnwys cynllwynio i dreisio plentyn dan 13 oed a chynllwynio i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn o dan 13 oed.

Ond newidiodd ei ble ar y munud olaf cyn i’r rheithgor yn yr achos dyngu llw.  Mae’n honni nad oedd ganddo gof o gyflawni’r troseddau yn erbyn y babis am ei fod wedi cymryd cyffuriau ar y pryd. Roedd wedi ffilmio ei hun yn cyflawni’r troseddau.

Mae wedi pleidio’n euog i 11 o gyhuddiadau i gyd. Mae’r erlyniad wedi derbyn ei ble.

‘Pedoffeil’

Cafodd ei ddisgrifio fel “pedoffeil cyson a phenderfynol”  gan Christopher Clee QC ar ran yr erlyniad.

Wrth ryddhau’r rheithgor dywedodd y barnwr Mr Ustus Royce eu bod wedi cael eu harbed rhag gwylio “deunydd hynod graffig ag erchyll.”

Mae dwy ddynes arall, na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol,  hefyd wedi pledio’n euog i droseddau rhyw.

Fe fydd Watkins a’r ddwy ddynes yn cael eu dedfrydu ar 18 Rhagfyr.

‘Erchyll’

Ar ol i’r achos ddod i ben heddiw dywedodd y Ditectif Arolygydd Peter Doyle o Heddlu De Cymru fu’n arwain yr ymchwiliad: “Mae’r ymchwiliad yma wedi datgelu’r dystiolaeth fwyaf erchyll yn ymwneud a cham-drin plant rwyf erioed wedi ei gweld.

“Does dim dwywaith yn fy meddwl i bod Ian Watkins wedi manteisio ar ei statws er mwyn cam-drin plant ifanc.

“Mae’r canlyniad heddiw yn sicrhau bod y tri pherson fu’n gyfrifol wedi’u dwyn i gyfrif.”

Dywedodd bod dau blentyn ifanc iawn bellach wedi cael eu rhoi yng ngofal yr awdurdodau a bod ganddyn nhw  “ddyfodol na fyddai ganddyn nhw fel arall.”

Ychwanegodd bod yr ymchwiliad wedi bod yn “gymhleth a heriol” a bod Heddlu’r De wedi cydweithio gyda nifer o  awdurdodau a chyrff eraill gan gynnwys CEOP sy’n rhan o’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, adran ddiogelwch yr Unol Daleithiau a’r NSPCC.

“Nid dyma ddiwedd ein hymchwiliadau ac fe fyddan ni’n gweithio’n ddiflino er mwyn ceisio adnabod dioddefwyr a thystion eraill er mwyn iddyn nhw gael y cyfiawnder maen nhw’n ei haeddu,” meddai Peter Doyle.

Mae wedi annog unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan yr achos yma neu unrhyw achosion eraill o gam-drin plant i gysylltu â Heddlu’r De ar 029 20634184 neu’r  NSPCC ar 0808 800 5000.