Mae Alex Cuthbert wedi’i enwi yn nhîm Cymru i wynebu Awstralia ddydd Sadwrn ar ôl iddo wella’n gynt na’r disgwyl o anaf i’w ffêr.
Dan Biggar sydd wedi’i ddewis fel maswr, tra bod Scott Williams hefyd yn dychwelyd o anaf i fodyn ei droed i gymryd ei le yng nghanol cae.
Ei bartner yn y canol fydd Owen Williams, a sgoriodd gais gyntaf Cymru wrth iddyn nhw drechu Tonga 17-7 nos Wener ddiwethaf.
Roedd disgwyl y byddai Cuthbert yn methu holl gemau’r hydref gyda’r anaf, ond ar ôl gwella’n sydyn bydd yn gobeithio gallu efelychu’i berfformiad diwethaf yn y crys coch.
Sgoriodd yr asgellwr, sydd â naw o geisiau dros Gymru mewn 18 gêm, ddwy gais yn y fuddugoliaeth swmpus dros Loegr o 30-3 ym mis Mawrth a seliodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad i Gymru.
Naw newid
Mae naw newid i’r tîm wynebodd Tonga, gydag enwau mawr megis Mike Phillips, Gethin Jenkins, Richard Hibbard a Dan Lydiate yn dychwelyd.
Alun Wyn Jones ac Ian Evans sydd yn dechrau yn yr ail reng, gyda Ryan Jones yn cynnig opsiwn oddi ar y fainc – gan olygu nad oes lle i’r clo James King yn y 23.
Lle ar y fainc felly sydd i olwyr y Sgarlets Rhys Priestland, Rhodri Williams a Liam Williams, tra bod Luke Charteris, James Hook a Paul James ddim ar gael oherwydd bod yn rhaid iddynt ddychwelyd i’w clybiau.
Mae Sam Warburton yn dychwelyd fel capten wrth i Gymru geisio gorffen ymgyrch yr hydref gyda buddugoliaeth yn erbyn y Wallabies.
Mae Rhodri Jones yn dechrau’i drydedd gêm yn olynol gan fod Adam Jones allan ag anaf, tra bod Justin Tipuric yn ôl ar y fainc gyda Toby Faletau nôl mewn.
Geiriau Gatland
Dywedodd hyfforddwr Cymru Warren Gatland ei fod wrth ei fodd bod Cuthbert a Scott Williams ar gael ar ôl anafiadau. “Mae’n wych bod Alex a Scott ar gael ac maen nhw’n dod a phrofiad i’r llinell ôl,” meddai Gatland wrth gyhoeddi’r tîm. “Mae Alex a’r tîm meddygol wedi gweithio’n hynod o galed i wneud yn siŵr ei fod yn barod am y penwythnos.
“Roedden ni’n credu bod (Owen) Williams wedi perfformio’n dda yn y canol yn erbyn Tonga ac mae’n cael cyfle arall ar ddydd Sadwrn.
“Mae llawer o brofiad yn y pac ar gyfer gêm fydd yn gorfforol tu hwnt. Rydyn ni’n edrych i orffen y gyfres yn dda, mae’r tair gêm olaf yn erbyn Awstralia wedi mynd reit nes y diwedd a dwi ddim yn disgwyl unrhyw beth gwahanol y penwythnos yma.”
Tîm Cymru: Leigh Halfpenny (Gleision), Alex Cuthbert (Gleision), Owen Williams (Gleision), Scott Williams (Sgarlets), George North (Northampton), Dan Biggar (Gweilch), Mike Phillips (Dim clwb), Gethin Jenkins (Gleision), Richard Hibbard (Gweilch), Rhodri Jones (Sgarlets), Alun Wyn Jones (Gweilch), Ian Evans (Gweilch), Dan Lydiate (Racing Metro), Sam Warburton (Gleision, capt), Toby Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: Ken Owens (Sgarlets), Ryan Bevington (Gweilch), Samson Lee (Sgarlets), Ryan Jones (Gweilch), Justin Tipuric (Gweilch), Rhodri Williams (Sgarlets), Rhys Priestland (Sgarlets), Liam Williams (Sgarlets).