Leigh Halfpenny
Mae’r BBC wedi cyhoeddi’r pum enw ar y rhestr fer i gipio tlws Personoliaeth Chwaraeon Cymru eleni.
Yr enwau gafodd eu dewis gan y panel o arbenigwyr ar gyfer y rhestr fer yw Gareth Bale, Aled Siôn Davies, Leigh Halfpenny, Becky James a Non Stanford.
Pleidlais agored i’r cyhoedd fydd hi, gyda’r enillydd yn cael eu cyhoeddi yn seremoni newydd Gwobrau Chwaraeon Cymru yng Nghanolfan Cenedlaethol Chwaraeon Cymru ar 9 Rhagfyr.
Bydd y pump sydd ar y rhestr fer yn anelu i gipio’r wobr oddi ar y deiliad Jade Jones, a enillodd y llynedd yn dilyn gemau Olympaidd llwyddiannus pan lwyddodd i gipio’r fedal aur yng nghategori -57kg y taekwondo.
Gareth Bale yw un o’r enwau mwyaf adnabyddus ar y rhestr, ar ôl i’r pêl-droediwr symud i Real Madrid o Tottenham dros yr haf am swm record byd o £85miliwn.
Mae Bale wedi sgorio 23 gôl i’w glybiau a’i wlad hyd yn hyn y tymor yma mewn dim ond 38 gêm, ac eisoes wedi ennill llu o wobrau diwedd tymor y flwyddyn hon, gan gynnwys Pêl-droediwr y Flwyddyn y PFA a Chwaraewr y Flwyddyn yr Awduron Pêl-droed.
Roedd Aled Siôn Davies yn un o sêr Pencampwriaethau Athletaidd Paralympaidd y Byd yn Lyon dros yr haf, gan ennill dwy fedal aur.
Torrodd y record byd i ennill y gystadleuaeth taflu siot F42, cyn mynd ymlaen i gipio aur yn taflu’r ddisgen hefyd.
Leigh Halfpenny yw un o sêr mwyaf y byd rygbi ar hyn o bryd, ar ôl blwyddyn ddisglair tu hwnt ble bu’n rhan o dîm Cymru enillodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ogystal ag aelod o daith y Llewod a drechodd Awstralia dros yr haf.
Cafodd Halfpenny ei enwi’n seren y Chwe Gwlad a seren y daith ar gyfer y ddwy ymgyrch hynny, ac mae hefyd wedi’i enwi ar restr fer chwaraewr y flwyddyn y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.
Mae’r beicwraig Becky James wedi amlygu’i hun yn sylweddol y flwyddyn hon gyda phedair medal ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac y Byd ym Minsk yn gynharach yn y flwyddyn, gan gynnwys dwy fedal aur yn y rasys sbrint a keirin.
Llwyddodd i ennill efydd yn y sbrint tîm a’r treialon amser 500m hefyd, ac os nad oedd hynny’n ddigon fe ychwanegodd James fedal arian yn y keirin ac efydd yn y ras sbrint i’w chasgliad yng Nghwpan Trac y Byd fis diwethaf.
Fe goronodd Non Stanford flwyddyn anhygoel i’w hun wrth ddod yn Bencampwraig Triathlon y Byd y flwyddyn hon – flwyddyn yn unig ar ôl iddi ddod yn Bencampwraig Dan-23 y Byd.
Profodd y cyn redwraig, wnaeth ddim ond ddechrau cystadlu yn y triathlon yn 2008, nad oedd y cam i fyny’n rhy fawr iddi wrth gipio cyntaf yn ras olaf y gyfres yn Llundain ym mis Medi, i ychwanegu at Gwpan Triathlon Ewrop a enillodd yn gynharach yn y flwyddyn.
Mae rhai o’r gwobrau eraill i’w cyflwyno ar y noson yn cynnwys Hyfforddwr y Flwyddyn, Tîm y Flwyddyn, Athletwr ac Athletwraig Ifanc y Flwyddyn, Gwobr Cyfraniad Oes, ac Arwr ‘Unsung’ sydd yn mynd i Paul Scarfi am ei waith hyfforddi pêl-droed gyda phobl ddigartref.
Bydd y pleidleisio’n agor i’r cyhoedd am 8yb ar 2 Rhagfyr ac yn cau am 7yh ar 7 Rhagfyr, gyda’r seremoni yn fyw i wylio ar wefan Chwaraeon BBC Cymru o 7.30yh ymlaen ar 9 Rhagfyr.
Bydd modd pleidleisio dros y ffôn neu tecst, gyda’r manylion llawn ar sut i wneud yn cael eu cyhoeddi ar 2 Rhagfyr.