James King
Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi galw clo’r Gweilch James King i ymuno â charfan Cymru’r wythnos hon fel chwaraewr wrth gefn wrth iddyn nhw baratoi i herio Awstralia ddydd Sadwrn.
Bydd disgwyl i Ian Evans ac Alun Wyn Jones bartneru ei gilydd yn yr ail reng i wynebu’r Wallabies, wrth i Gymru geisio cwblhau cyfres yr Hydref gyda buddugoliaeth.
Ond gydag anafiadau i Bradley Davies ac Andrew Coombs, a Luke Charteris, seren y gêm yn erbyn Tonga, yn dychwelyd i’w glwb Perpignan yn Ffrainc oherwydd fod y gêm yma’n digwydd y tu allan i’r ffenestr ryngwladol, mae King wedi cael ei alw wrth gefn.
Bydd Gatland yn enwi’r tîm ddydd Iau, gyda’r gŵr 23 oed a wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn Siapan dros yr haf yn gobeithio am le ar y fainc ar gyfer prynhawn ddydd Sadwrn, pan fydd Cymru’n ceisio trechu Awstralia am y tro cyntaf ers 2008.
Mae gan Alex Cuthbert siawns fechan o gymryd rhan yn y gêm ar ôl gwella’n gynt na’r disgwyl o anaf i’w ffêr. Roedd disgwyl iddo fethu holl gemau’r hydref ond bydd nawr yn ymarfer gyda’r garfan yr wythnos yma wrth i’r tîm hyfforddi asesu’i ffitrwydd yn bellach.
Cadarnhaodd Gatland hefyd fod Scott Williams a Liam Williams yn gwella’n dda o’u hanafiadau, a bod gan y ddau ohonynt siawns o chwarae yn erbyn Awstralia.
Ond ni fydd Charteris, James Hook na Paul James ar gael oherwydd fod rhaid iddynt ddychwelyd i’w clybiau – er bod George North yn parhau gyda charfan Cymru oherwydd cymal yn ei gytundeb gyda’i glwb Northampton.