Sebastian Vettel (CCA 2.0)
Gohebydd F1 golwg360, Phil Kynaston, sydd yn edrych nôl ar ras ola’r tymor ym Mrasil ym Mhencampwriaeth Byd Fformiwla 1, â goruchafiaeth Vettel yn parhau.

Llwyddodd Sebastian Vettel i greu hanes wrth ddod y gyrrwr cyntaf yn hanes Fformiwla 1 i ennill naw ras yn olynol, a gorffen y tymor mewn steil ym Mrasil.

Cafodd ei gyd-yrrwr ar dîm Red Bull, Mark Webber, bodiwm yn ei ras olaf yntau cyn ymddeol, gan goroni blwyddyn wych i’r tîm wrth ennill Tlws y Gwneuthurwyr i fynd gyda Phencampwriaeth Byd Vettel.

Rhagbrawf gwlyb

Dechreuodd rhagbrawf Grand Prix Brasil yn wlyb. Yn wahanol i’r arfer, roedd y rhan fwyaf o’r ceir allan ar y trac yn gynnar yn ceisio gosod amser. Wrth i’r sesiwn fynd ymlaen, roedd y glaw yn gwaethygu’n araf ac felly roedd y gyrwyr yn methu gosod amseroedd cyflymach.

Daeth diwrnod (a sesiwn rhagbrofol McLaren olaf) Sergio Perez i ben ychydig yn gynnar wrth iddo gael damwain yn ceisio cael safle cychwyn uwch wrth i’r tywydd waethygu. Byddai’n cael cosb bellach o bum safle ar y grid am orfod cael gerbocs newydd oherwydd y difrod.

Wrth i’r glaw waethygu (ac achosi pyllau mawr mewn mannau), cafodd y trydydd sesiwn ei gohirio am 45 munud, gyda Vettel yn cipio’r amser cyflymaf wedi iddyn nhw lwyddo i ddychwelyd i’r trac.

Rosberg yn manteisio

Gan greu cynnwrf mawr ar ddechrau’r, llwyddodd Nico Rosberg i basio Vettel er mwyn arwain y ras yn ystod y lap gyntaf. Ond cymaint yw goruchafiaeth Red Bull a Vettel ar hyn o’r bryd fel bod yr Almaenwr wedi llwyddo i gymryd y safle yn ôl erbyn diwedd y lap.

Ar ôl ail hanner mor gryf i’r tymor, fe orffennodd tymor Romain Grosjean yn gynnar wrth i’w injan chwythu ar y pedwerydd lap.  Fe wasgarodd y mwg ar draws y trac wrth y gornel olaf a’i gwneud hi’n anodd iawn i’r rheiny y tu ôl iddo weld.

Gan gadw’n gyson drwy ei yrfa tan y diwedd, fe gollodd Mark Webber safleoedd oddi ar y cychwyn. Ond fe rasiodd yn dda yn erbyn Lewis Hamilton a Fernando Alonso (mwy nag unwaith wrth iddynt frwydro trwy pitstops) i ddangos y byddai’n hawdd medru parhau â’i yrfa petai o eisiau gwneud.

Bottas mewn potes

Ar ôl cymryd ei bwyntiau cyntaf tro diwethaf yn Austin, fe ddaeth ras Valtteri Bottas i ben mewn gwrthdrawiad gyda Lewis Hamilton. Wrth i’r ddau ohonynt frwydro, fe symudodd y Prydeiniwr ar ei draws (yn ddiofal, pwy a ŵyr) heb sylweddoli ble roedd Bottas.  Cafodd Hamilton gosb hefyd, wrth orfod pitio am deiar newydd ac wedyn cael cosb gyrru trwy’r pits wrth i’r stiwardiaid ei feio ef.

Ar y lap yno, roedd Webber i fod i bitio, ond rhag ofn bod y car diogelwch am ddod allan oherwydd damwain Bottas, fe gafodd Vettel ei alw i mewn yn gyntaf ac fe orfodwyd Webber i giwio y tu ôl iddo (arwydd arall nad oedd pethau mor hafal â hynny rhwng gyrwyr Red Bull).

Gyrrwr arall i gael cosb gyrru drwy’r pits oedd Felipe Massa, yn ei ras olaf i dîm Ferrari. Ar drac Interlagos, ar fynediad y pits, mae’r bwlch rhwng y pits a’r trac yn lledaenu ac mae ‘na linellau croes i ddangos nad ydi gyrwyr i fod i’w croesi (mae hwn yn drac ble mae gyrwyr yn tueddu croesi i mewn i’r lôn pit ar eu ffordd i orffen y lap).

Fe groesodd y llinell honno nifer o weithiau er gwaethaf rhybuddion, ac fe ddangosodd Massa ei dymer i’r stiwardiaid wrth fynd ar hyd y lôn pit.

Agor bwlch

Fel sydd wedi bod yn arferol yn y rasys diweddar, roedd gan Vettel  fwlch mawr rhyngddo fo a gweddill y pac – ond yn rhyfedd, yna fe ddechreuodd o adael i yrwyr ddad-lapio eu hunain.

Un damcaniaeth oedd ei fod o’n arafu i adael i’w gyd-yrrwr ddal i fyny a’i basio er mwyn cael ennill ei ras olaf. Fe anwybyddodd Vettel gyfarwyddiadau i beidio â phasio Webber am y fuddugoliaeth ym Malaysia, felly roedd hi’n bosib mae talu nôl am hynny fyddai hyn. Ond ar y llaw arall roedd y digwyddiad hwnnw wedi dangos mor sur oedd perthynas y ddau, ac felly’n gwneud hynny’n annhebygol.

Vettel aeth ymlaen i ennill y ras, i greu record newydd o naw buddugoliaeth yn olynol. Ac fel un sydd ddim yn ddiarth i gamymddwyn ar y lap arafu fe dynnodd Webber ei helmet i ffwrdd wrth yrru o gwmpas y trac am y tro olaf, ag yntau wedi gorffen yn ail.

Diwedd cyfnod

Ond doedd dim posib cosbi Webber yn iawn, gan ei fod yn ymddeol! Roedd hi yn wahanol ac yn dda i weld wyneb gyrrwr wrth eu gwaith mewn car F1 am unwaith. Alonso oedd yn drydydd, a Jenson Button yn bedwerydd.

Roedd y newid mawr yn y bencampwriaeth yn y ras olaf o’r tymor yma yn eithaf priodol, wrth i Webber ddringo i orffen ei dymor olaf fel gyrrwr F1 yn drydydd.

Gydag injans gwahanol iawn y tymor nesaf, bydd cystadleuwyr Red Bull yn gobeithio am fwy o siawns flwyddyn nesaf ar ôl tymor o dorri recordiau, wrth i Vettel a’r tîm ennill pencampwriaethau’r gyrwyr a’r timau am y pedwerydd tro yn olynol.