Bu hi’n benwythnos siomedig i Dîm yr Wythnos wrth i Glwb Rygbi Crymych golli’n drwm i ffwrdd yn erbyn Llangennech yn Adran Un (Gorllewin) Cynghrair SWALEC o 42-14.
Roedd Llangennech 13-0 ar y blaen erbyn yr egwyl, gyda Chrymych yn methu a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd a gawsant.
Fe lwyddon nhw i groesi’r llinell gais ddwywaith yn yr ail hanner i gael pwyntiau ar y bwrdd, diolch i geisiau gan yr asgellwr Gavin Thomas a’r prop Lewis Davies, y ddau’n cael eu trosi can y cefnwr Adam Phillips.
Ond roedd Llangennech yn drech na nhw gan sgorio 29 pwynt arall yn yr ail hanner i orffen y gêm gyda mantais gyfforddus.
Mae’r golled yn golygu bod Crymych yn aros yn 11fed yn y tabl, un yn uwch na’r gwaelod, tra bod Llangennech yn codi un safle i nawfed.
Dywedodd rheolwr Crymych Adrian Howells ei fod yn siomedig gyda’r canlyniad, gan nodi eu bod wedi chwarae Llangennech ar yr adeg waethaf posib.
“Doedd e ddim y perfformiad gorau, ‘ro ni’n eithaf siomedig gyda’r canlyniad,” cyfaddefodd Howells.
“Fe gawson ni gyfleoedd yn yr hanner cyntaf ond wnaethon ni ddim neud y mwyaf ohonyn nhw.”
“Roedd ganddyn nhw hyfforddwr newydd a chwe chwaraewr newydd yn y tîm, felly roedden ni’n chwarae nhw pan oedden nhw ar eu cryfaf.
“Mae’n rhaid i’r bechgyn ddysgu o’r canlyniad yma, ac ry’ ni’n gobeithio gwneud yn well erbyn y gêm nesaf.”
Mae gêm nesaf Crymych i ffwrdd yn erbyn Llwchwr, sy’n wythfed yn y tabl, ar 7 Rhagfyr.
Yn y cyfamser os hoffech chi i’ch tîm chi gael sylw fel ‘Tîm yr Wythnos’, cysylltwch â ni!
Tîm Crymych yn erbyn Llangennech:
15. Adam Phillips, 14. Gavin Thomas, 13. Carwyn Phillips, 12. Elgan Vittle (c), 11. Noam Devey, 10. Gareth Davies, 9. Huw Rees; 1. Lewis Davies, 2. Carwyn Rees, 3. Rhys Richards, 4. Gruffudd Howells, 5. Llŷr Evans, 6. Aled Harries, 7. Tom Powell, 8. Richard Sharpe Williams.
Eilyddion:
16. Josh Clarke, 17. Mathew House, 18. Alex Humphreys, 19. Guto Griffiths