Gôl arall i Andrew Crofts
Mae Cip ar y Cymry nôl ar ôl seibiant yr wythnos diwethaf oherwydd y gemau rhyngwladol – ac mae’n ymddangos fod Gareth Bale wedi gwneud rhywbeth tebyg, wrth ddychwelyd i grys Madrid.

Methu fu ei ymgais i rwydo i Gymru yn erbyn y Ffindir ddydd Sadwrn diwethaf, ond roedd yn ôl ymysg y goliau gan gyfrannu’r drydedd o’r gêm – a’i bumed dros ei glwb y tymor hwn – wrth i Real chwalu Almeria 5-0.

Roedd Aaron Ramsey’n ddisglair eto wrth i Arsenal drechu Southampton 2-0 i aros ar frig y gynghrair, ac er na sgoriodd bu’n hynod o anlwcus wrth daro’r postyn yn yr hanner cyntaf ar ôl ceisio fflicio’r bêl i’r gornel gyda’i sawdl.

Ar ôl serennu i Gymru’r wythnos diwethaf, cafodd Joe Allen ei wobrwyo gan ddechrau’i gêm gyntaf o’r tymor dros Lerpwl, wrth iddyn nhw achub pwynt hwyr mewn gêm ddarbi 3-3 gyffrous yn erbyn Everton – er i’r Cymro fethu cyfle euraidd yn yr ail hanner wrth daro’i ergyd heibio i’r postyn ychydig lathenni o’r gôl gyda digon o amser ganddo.

Ni chafodd Cymry West Ham brynhawn da, gyda James Collins yn rhan o’r amddiffyn a ildiodd dair i Chelsea wrth golli 3-0, a Jack Collison yn cael ei eilyddio cyn yr egwyl.

Cafodd Abertawe well lwc yn Llundain wrth drechu Fulham o 2-1, gydag Ashley Williams a Ben Davies yn chwarae gemau llawn – arwydd efallai o ble mae Neil Taylor yn sefyll i Michael Laudrup os nad Chris Coleman.

Roedd Danny Gabbidon yn rhan o amddiffyn Crystal Palace gadwodd lechen lân wrth ennill 1-0 yn erbyn Hull am ddim ond eu hail fuddugoliaeth o’r tymor – a braf oedd gweld Jonny Williams nôl ar y fainc hefyd ar ôl ei anaf.

Roedd cic o’r smotyn Sam Vokes yn gêm gyfartal 1-1 Burnley gyda Nottingham Forest yn ddigon i’w cadw ar frig y Bencampwriaeth ar wahaniaeth goliau, a mynd a’r Cymro i ffigyrau dwbl am goliau’r tymor hwn.

Rhwydodd Andrew Crofts unig gôl y gêm wrth i Brighton drechu Wigan – pumed gôl y tymor i’r chwaraewr canol cae eisoes.

Chris Gunter, Rhoys Wiggins a Joel Lynch oedd yr unig rai eraill i chwarae 90 munud yn y Bencampwriaeth, gyda Simon Church, David Cotterill ac Andy King yn cael eu heilyddio’n fuan, ac ymddangosiadau sydyn oddi ar y fainc i Steve Morison ac Ashley Richards.

Joe Ledley oedd yr unig Gymro i wneud ymddangosiad yn yr Alban, gan chwarae 80 munud i Celtic – ond dim ond wedi iddo adael y maes y gwnaeth ei dîm yn sicr o’r fuddugoliaeth o 3-1 gyda goliau hwyr.

Yng Nghynghrair Un, chwaraeodd Sam Ricketts a Dave Edwards gemau llawn wrth i Wolves gael gêm gyfartal, gyda’r ymosodwr ifanc Jake Cassidy yn dod oddi ar y fainc am ddwy funud. Owain Fôn Williams oedd yr unig un o’r golwyr i chwarae dros y penwythnos, gan ennill 5-1 gyda Tranmere.

Seren yr wythnos: Andrew Crofts – mae’n cael digon o sdic gan rhai o gefnogwyr Cymru, ond gôl bwysig i ennill gêm, a ‘di pum gôl yn barod i chwaraewr canol cae mwy amddiffynnol ddim yn ffôl.

Siom yr wythnos: Jack Collison – cael ei eilyddio cyn yr egwyl yn siom i unrhyw chwaraewr, hyd yn oed os oedd am resymau tactegol.