Mae beth bynnag 13 o bobol wedi’u lladd wedi i hofrennydd byddin Indonesia gwympo i’r ddaear ar ynys Borneo a mynd ar dân.
Roedd yr hofrennydd cargo MI-17 yn cario saith milwr a 12 o bobol gyffredin tua’r ffin rhwng Indonesia a Malaysia, pan aeth i drafferthion.
Mae’r awdurdodau’n ymchwilio i achos y ddamwain, yn arbennig o gofio fod yr hofrennydd yn un o’r rhai math newydd o ‘Chopper’.
Mae gweithwyr achub wedi codi 13 o gyrff o safle’r ddamwain, yn cynnwys pum milwr, ac mae chwech o bobol eraill wedi cael eu rhuthro i’r ysbyty yn nhre’ Tarakan gerllaw.