Fe ddaeth Tywysog Cymru wyneb yn wyneb â chwestiwn athronyddol iawn gan fachgen bach yn India heddiw.
Y cwestiwn i’r Tywysog Siarl gan Jaishankar Mishra, 9 oed, oedd, “Sut beth ydi bod yn dywysog?”
Roedd Siarl ar ymweliad â choedwig breifat yn Mumbai sy’n eiddo i deulu cyfoethog Godrej.
A’r ateb? “Dw i ddim yn gwybod sut beth ydi bod yn dywysog, oherwydd nad ydw i erioed wedi bod yn ddim byd arall.”