Yr olew ar draethau de Cymru (Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru)
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio pobol sy’n cerdded ac yn defnyddio traethau yn ne Cymru, rhag lympiau o fraster sy’n cael eu golchi i’r lan.

Nos Wener, fe gafwyd hyd i’r braster ar draeth Aberogwr ym Mro Morgannwg.

Erbyn heddiw, mae swyddogion yn dweud fod mwy o samplau o’r braster wedi’i ganfod ar draethau Southerndown a Newton ger Porthcawl, ynghyd ag Oxwich a Llangennydd ar Benrhyn Gwyr.

Mae profion yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, er mwyn ceisio cadarnhau pa fath o olew yw e.