Mae prif weinidog Libya, Ali Zeidan, wedi cael ei herwgipio gan ddynion arfog mewn gwesty yn Tripoli, yn ôl swyddogion.
Mae grwpiau milwrol Islamaidd wedi eu cythruddo ar ôl i luoedd arbennig yr Unol Daleithiau arestio dyn sy’n cael ei adnabod fel Abu Anas al-Libi ac sy’n cael ei amau o fod yn aelod o al Qaida yn Libya.
Roedd nifer o grwpiau wedi cyhuddo’r llywodraeth o gynllwynio gyda lluoedd UDA neu wedi caniatáu’r cyrch, er bod y llywodraeth wedi gwadu eu bod nhw’n gwybod unrhyw beth am y digwyddiad.
Oriau’n unig cyn iddo gael ei herwgipio, roedd Ali Zeidan wedi cwrdd â theulu Abu Anas al-Libi.
Yn ôl llefarydd ar ran y llywodraeth roedd dynion arfog wedi torri mewn i’r gwesty lle mae Ali Zeidan yn byw ac wedi ei gipio ynghyd a dau o’i swyddogion diogelwch.