Mae cwmni ynni SSE wedi cyhoeddi y bydd prisiau trydan a nwy yn cynyddu 8.2% ar gyfartaledd o 15 Tachwedd.

Mae gan y cwmni, sy’n berchen Swalec, Southern Electric a Scottish Hydro, 10 miliwn o gwsmeriaid.

Maen nhw’n rhoi bai am y cynnydd ar gostau prynu a dosbarthu ynni.