Mae cynllun peilot dadleuol y Llywodraeth sy’n annog mewnfudwyr anghyfreithlon i ddychwelyd adre “eisoes wedi talu amdano’i hun” meddai’r Gweinidog Mewnfudo heddiw.

Dywedodd Mark Harper bod yr ymgyrch, sy’n cynnwys posteri ar faniau, wedi costio £10,000 a bod un person eisoes wedi gadael y wlad o’i wirfodd ar ddechrau mis Awst.

Ond fe awgrymodd cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref Keith Vaz y gallai’r arian fod wedi cael ei wario mewn modd gwell.

Yn ystod dadl am ymgyrch y Llywodraeth yn Neuadd San Steffan dywedodd Mark Harper: “Cost y cynllun peilot yma oedd £10,000. Y cwbl sy’n rhaid i ni wneud er mwyn sicrhau bod y cynllun yn talu’i ffordd yw cael un unigolyn sy’n byw yn y wlad yn anghyfreithlon i ddychwelyd adre o ganlyniad i’r ymgyrch.”

Dywedodd bod unigolyn o Bacistan, oedd wedi bod yn byw’n anghyfreithlon yn y DU ers mis Rhagfyr, wedi penderfynu dychwelyd adre o’i wirfodd ar 2 Awst.

“O ganlyniad, mae’r cynllun peilot wedi talu amdano’i hun. Petai ni wedi gorfod arestio, cadw a gorchymyn unigolyn i adael y wlad, fe fyddai wedi costio o leiaf £15,000 i’r trethdalwr.”

Heddiw fe benderfynodd yr Awdurdod Safonau Hysbysebu nad oedd yr ymgyrch yn sarhaus ac anghyfrifol yn dilyn 224 o gwynion, ond mae wedi cael ei wahardd am ddefnyddio ystadegau camarweiniol ynglŷn â nifer y bobl sydd wedi’u harestio am fyw yn y DU yn anghyfreithlon.