Cafodd dau berson eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Maelor, Wrecsam ar ôl damwain ddifrifol rhwng dau gar yng Nghorwen ddoe.
Mae’r ddau yn dioddef o anafiadau difrifol.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i’r digwyddiad ar yr A494 yng Nglan Yr Afon am 1:20 y pnawn.
Roedd y ffordd wedi cau am gyfnod hir, wrth i’r gwasanaeth tân orfod torri dyn yn rhydd o gar Audi. Mae’r ffordd bellach wedi ail agor.